Aaron Ramsey, Gareth Bale ac Owain Fon Williams yn dathlu lle Cymru yn Ewro 2016 (llun: CBDC)
Fe fydd Cymru’n wynebu Lloegr, Rwsia a Slofacia yn eu grŵp yn Ewro 2016.
Slofacia fydd gwrthwynebwyr agoriadol Cymru yn Bordeaux ar 11 Mehefin.
Yna fe fydd tîm Chris Coleman yn wynebu’r Saeson yn Lens ar 16 Mehefin.
Bydd tîm Chris Coleman yn gorffen y grŵp yn erbyn Rwsia yn Toulouse ar 20 Mehefin.
Cymru v Lloegr
Roedd rheolwr Cymru Chris Coleman wedi dweud cyn dewis y grwpiau ei fod yn awyddus i osgoi Lloegr yn y grŵp oherwydd yr holl sylw fyddai o gwmpas y gêm.
“Wel, mae gyda ni nhw nawr, Fe fydd hi’n gêm wych,” meddai Coleman ar ôl i’r grwpiau gael eu dewis.
“Rydyn ni’n ddau dîm da … mae Lloegr yn dîm safonol iawn.”
Ychwanegodd rheolwr Lloegr Roy Hodgson bod tîm Cymru “yn drefnus iawn, gydag ysbryd gwych yn eu carfan a gydag asgwrn cefn cryf i’w tîm”.
Grwpiau Ewro 2016
Grŵp A – Ffrainc, Albania, Rwmania, Swistir
Grŵp B – Lloegr, Cymru, Slofacia, Rwsia
Grŵp C – Yr Almaen, Gogledd Iwerddon, Gwlad Pwyl, Wcrain
Grŵp D – Sbaen, Twrci, Gweriniaeth Tsiec, Croatia
Grŵp E – Gwlad Belg, Gweriniaeth Iwerddon, Sweden, Yr Eidal
Grŵp F – Portiwgal, Gwlad yr Ia, Hwngari, Awstria