Tranmere 2–4 Wrecsam                                                                  

Mae Wrecsam yn ail rownd Tlws yr FA ar ôl trechu Tranmere ar Barc Prenton yn y rownd gyntaf brynhawn Sadwrn.

Creodd Dominic Vose y gyntaf i Wes York cyn sgorio ei hun i ddyblu mantais yr ymwelwyr.

Tynnodd James Norwood un yn ôl i Tranmere cyn yr egwyl ond adferodd Sean Newton y ddwy gôl o fanatais yn gynnar yn yr ail gyfnod.

Ychwanegodd Manny Smith y bedwaredd i’r Cymry cyn i Norwood rwydo ail gôl gysur hwyr.