Caerdydd 2–2 Sheffield Wednesday                                         

Gêm gyfartal ar ôl ildio dwy gôl o fantais oedd hanes Caerdydd yn erbyn Sheffield Wednesday yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn, a hynny am yr ail gêm gartref yn olynol.

Dyna yn union a wnaeth yr Adar Gleision bythefnos yn ôl hefyd wrth i Burnley ymweld â phrifddinas Cymru yn y Bencampwriaeth.

Aeth Caerdydd ar y blaen wedi ugain munud pan sgoriodd Craig Noone o’r smotyn. Cafodd Tony Watt ei lorio yn y cwrt cosbi gan Keiren Westwood a gyda Peter Wittingham ar y fainc, fe sgoriodd Noone o ddeuddeg llath.

Dyblodd yr Adar Gleision y fantais ddeuddeg munud cyn yr egwyl pan gasglodd Anthony Pilkington bas dreiddgar Joe Ralls cyn curo Westwood yn y gôl.

Roedd Wednesday dipyn gwell wedi’r egwyl a dim ond mater o amser oedd hi tan iddyn nhw dynnu un yn ôl.

Digwyddodd hynny ar yr awr pan gafodd Fernando Forestieri ormod o le o lawer i ergydio o du allan i’r cwrt cosbi.

Roedd yr ymwelwyr yn gyfartal chwarter awr o’r diwedd wedi i Barry Bannan rwydo yn dilyn cyd chwarae da gyda Ross Wallace.

Cafodd Noone gyfle i’w hennill hi i Gaerdydd wedi hynny ond gwnaeth Westwood yn dda i’w chadw hi’n gyfartal.

Mae’r gêm gyfartal yn ddigon i gadw Caerdydd uwch ben Wednesday ond mae Ipswich yn neidio dros y ddau dîm wedi buddugoliaeth yn erbyn MK Dons. Mae Caerdydd bellach yn seithfed.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Peltier, Morrison, Connolly, Malone, Noone, Gunnarsson, Ralls, Pilkington (Fabio 89′), Watt, Jones (Ameobi 68′)

Goliau: Noone [c.o.s.] 21’, Pilkington 34’

Cardiau Melyn: Peltier 4’, Ralls 71’, Morrison 72’

.

Sheffield Wednesday

Tîm: Westwood, Palmer, Turner, Loovens, Pudil, Wallace, Lee (Hooper 45′), Hutchinson (López 20′), Bannan, Forestieri, Lucas João (Nuhiu 91′)

Gôl: Forestieri 61’, Bannan 76’

Cerdyn Melyn: Loovens 78’

.

Torf: 14,526