Notts County 4–3 Casnewydd                                                       

Cipiodd Notts County fuddugoliaeth gyda gôl yn yr eiliadau olaf wrth i Gasnewydd ymweld â Meadow Lane yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Tair gôl yr un oedd hi cyn i Liam Noble sgorio i’r tîm cartref yn y chweched munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Rhuthrodd Casnewydd ar y blaen gyda goliau Mark Byrne ac Alex Rodman yn y deg munud cyntaf.

Tynodd Noble un yn ôl i Notts County ac unionodd Izale McLeod bethau cyn yr egwyl wedi i gic rydd Noble wyro i’w lwybr oddi ar y postyn.

Rhoddodd McLeod y tîm cartref ar y blaen am y tro cyntaf ddeunaw munud o’r diwedd ond roedd Scott Boden yn meddwl ei fod wedi achub pwynt i’r Alltudion pan rwydodd yntau ddeg munud yn ddiweddarach.

Ond cipiodd Noble y pwyntiau i gyd gyda’i ail gôl ef a phedwaredd ei dîm yn hwyr hwyr yn y gêm.

Mae’r canlyniad yn cadw Casnewydd yn unfed ar hugain yn nhabl yr Ail Adran.

.

Notts County

Tîm: Carroll, Hewitt (Amevor 63′), Sprockel (Milsom 54′), Sheehan, Audel, Campbell, Thompson, Noble, Burke (Murray 87′), Stead, McLeod

Goliau: Noble 34’, 90’ McLeod 41’, 71’

Cardiau Melyn: Sprockel 50’, Burke 73’, Noble 90’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Donacien, Partridge, Hughes, Barnum-Bobb (Holmes 51′), Rodman, Byrne, O’Sullivan (Collins 69′), Elito, John-Lewis (Boden 69′), McBurnie

Goliau: Byrne 5’, Rodman 10’, Boden 83’

Cardiau Melyn: Partridge 40’, McBurnie 65’

.

Torf: 4,105