Man City 2–1 Abertawe                                                                   

Roedd Abertawe’n hynod anlwcus wrth iddynt golli yn erbyn Man City yn yr Etihad brynhawn Sadwrn yn eu gêm gyntaf ers i Garry Monk gael ei ddiswyddo.

Yr Elyrch, dan ofal dros dro Alan Curtis oedd y tîm gorau heb os, ond cipiodd Man City’r tri phwynt gyda gôl hwyr ffodus Kelechi Iheanacho.

Yr Elyrch heb os a gafodd y gorau o’r pum munud ar hugain cyntaf ond daeth y gôl agoriadol i City yn erbyn llif y chwarae, Wilfred Bony yn sgorio yn erbyn ei gyn glwb gyda pheniad o groesiad Jesús Navas.

Cafodd Abertawe ddigon o gyfleoedd i unioni wedi hynny a bu rhaid i’r gôl-geidwad cartref, Joe Hart, wneud arbediadau da i atal Wayne Routledge a Gylfi Sigurdsson.

Daeth gôl haeddiannol i’r Cymry yn y diwedd, ym munud olaf y naw deg pan orffennodd yr eilydd, Bafetimbi Gomis, yn gelfydd ar ôl amseru ei rediad yn berffaith.

Roedd hi’n ymddangos y byddai hynny’n ddigon i ennill pwynt i dîm Curtis, ond cipiodd City’r pwyntiau i gyd pan wyrodd ergyd Yaya Touré oddi ar Iheanacho a thros ben Lukasz Fabianski i gefn y rhwyd yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Mae’r canlyniad yn cadw Abertawe yn bymthegfed yn nhabl yr Uwch Gynghrair am y tro, er y gallai Bournemouth godi drostynt gyda buddugoliaeth yn erbyn Man U yn y gêm hwyr.

.

Man City

Tîm: Hart, Sagna, Otamendi, Mangala, Clichy, Touré, Fernandinho, Jesús Navas, Silva (De Bruyne 68′), Sterling (Delph 45′), Bony (Iheanacho 84′)

Goliau: Bony 26’, Touré 90’

Cardiau Melyn: Bony 58’, Sagna 60’, Mangala 77’

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Rangel, Fernandez, Williams, Taylor, Cork, Britton (Montero 75′), Ki Sung-yueng, Ayew (Gomis 83′), Sigurdsson, Routledge (Barrow 76′)  

Gôl: Gomis 90’

Cerdyn Melyn: Taylor 43’

.

Torf: 53,052