Dreigiau Casnewydd Gwent 22–0 Pau
Serennodd Dorian Jones wrth i’r Dreigiau drechu Pau yng Nghwpan Her Ewrop ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.
Sgoriodd y maswr ifanc 17 pwynt wrth i’w dîm sicrhau buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn y Ffrancwyr.
Dechreuodd y Dreigiau yn dda ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen gyda chic gosb Jones wedi deuddeg munud.
Ychwanegodd y maswr dri phwynt arall cyn i’r mewnwr Sarel Pretorius ganfod bwlch i groesi am gais agoriadol da.
Gorffennodd Pau yr hanner gyda phedwar dyn ar ddeg yn dilyn cerdyn melyn i Marika Vunibaka ac er na wnaeth y Dreigiau ychwanegu at y sgôr roedd ganddynt fantais iach o un pwynt ar ddeg ar yr egwyl.
Ychwanegodd Jones ddwy gic gosb arall yn gynnar yn yr ail hanner cyn croesi am gais toc cyn yr awr i roi ei dîm 22 pwynt ar y blaen gyda dim ond chwarter y gêm i fynd.
Aros felly a wnaeth y sgôr tan y diwedd. Dim pwynt bonws i’r Cymry felly ond buddugoliaeth dda yn erbyn tîm o’r Top 14 yn Ffrainc.
Mae’r canlyniad yn cadw’r Dreigiau ar frig grŵp 2, gyda deg pwynt o’u tair gêm gyntaf.
.
Dreigiau
Ceisiau: Sarel Pretorius 26’, Dorian Jones 56’
Ciciau Cosb: Dorian Jones 12’, 24’, 41’, 43’
.
Pau
Cerdyn Melyn: Marika Vunibaka 32’