Glasgow 43–6 Scarlets

Cafodd y Scarlets gweir go iawn yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop wrth iddynt ymweld â Scotstoun i wynebu Glasgow brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd yr asgellwr, Taqele Naiyaravoro, dri o chwe chais yr Albanwyr mewn buddugoliaeth gyfforddus iawn.

Chwe munud oedd wedi mynd pan groesodd Duncan Weir am gais cyntaf y gêm yn dilyn sgarmes symudol effeithiol. Trosodd y maswr ei gais ei hun i ymwestyn y fantais i saith.

Caeodd Steve Shingler y bwlch gyda chic gosb i’r Scarlets ond adferodd Weir y saith pwynt o fantais gyda thri phwynt toc cyn yr egwyl.

Roedd Bois y Sosban yn ffodus i fod o fewn cyrraedd ar yr hanner a dim ond un tîm oedd ynddi yn yr ail hanner.

Croesodd James Malcolm am ail gais yr Albanwyr wedi deuddeg munud cyn i’r asgellwr, Naiyaravoro, fynd â’r gêm o afael y Cymry gyda hatric o geisiau.

Gyda’r fuddugoliaeth a’r pwynt bonws yn ddiogel, fe roddodd Tim Swinson yr eisin ar y gacen gyda chweched cais o symudiad olaf y gêm, 43-6 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn golygu fod y Scarlets allan o’r gystadleuaeth, heb fuddugoliaeth mewn tair gêm yng ngrŵp 3.

.

Glasgow

Ceisiau: Duncan Weir 6’, James Malcolm 52’, Taqele Naiyarvoro 56’, 69’, 73’, Tim Swinson 80’

Trosiadau: Duncan Weir 7’, 53’, Finn Russell 57’, 70’, 80’

Ciciau Cosb: Duncan Weir 39’

.

Scarlets

Ciciau Cosb: Steve Shingler 13’, 46’