Gleision 37–27 Montpellier
Cafodd y Gleision fuddugoliaeth dda a phywnt bonws wrth i Montpellier ymweld â Pharc yr Arfau yng Nhwpan Her Ewrop nos Wener.
Rhuthrodd y Gleision ar y blaen yn gynnar gyda Rhys Patchell yn trosi ei gais ei hun wedi dim ond munud o chwarae.
Yr ymwelwyr o Ffrainc gafodd y gorau o weddill yr hanner cyntaf serch hynny ac roeddynt yn gyfartal o fewn pum munud diolch i gais prop, Jamie Mackintosh, a throsiad Benoit Paillaugue.
Ychwanegodd y mewnwr gic gosb wedi hynny i roi Montpellier dri phwynt ar y blaen wedi deuddeg munud.
Roedd gan y Ffrancwyr fantais gyfforddus erbyn hanner ffordd trwy’r hanner diolch i ddau gais cyflym i’r asgellwyr. Croesodd Timoci Nagusa cyn i Julien Malzieu dirio’r trydydd.
Er gwaethaf goruchafiaeth Montpellier yn yr hanner cyntaf roedd y Gleision yn y gêm ar hanner amser diolch i gais hwyr Josh Navidi a throsiad Patchell, 14-20 y sgôr wedi deugain munud.
Bu rhaid i Montpellier chwarae gyda thri dyn ar ddeg am gyfnod ar ddechrau’r ail hanner yn dilyn cardiau melyn i Bismarck Du Plessis a Robins Tchale Watchou yn y munudau cyntaf.
Parhau a wnaeth adferiad y Gleision hefyd wrth i Lloyd Williams groesi am drydydd cais y tîm cartref i’w rhoi o fewn pwynt i’r ymwelwyr.
Aeth y Cymry ar y blaen toc wedi’r awr pan groesodd Alex Cuthbert am bedwerydd cais, gan sicrhau bwynt bonws o leiaf i’w dîm.
Methodd Patchell y trosiad ond llwyddodd gyda chic gosb ychydig funudau’n ddiweddarach i roi saith pwynt rhwng y ddau dîm gyda chwarter awr i fynd.
Roedd y fuddugoliaeth fwy neu lai yn ddiogel wedyn pan groesodd Navidi am ei ail gais ef a phumed ei dîm ddeg munud o’r diwedd.
Fe wnaeth cais hwyr Charles Geli sicrhau un pwynt bonws i’r Ffrancwyr ond cipiodd Patchell un arall o’u gafael gyda chic gosb hwyr i roi deg pwynt rhwng y timau, 37-27 y sgôr terfynol.
Mae’r fuddugoliaeth yn rhoi’r Gleision yn ail yng ngrŵp 3, gyda deg pwynt wedi tair gêm.
.
Gleision
Ceisiau: Rhys Patchell 1’, Josh Navidi 40’, 69’, Lloyd Williams 43’, Alex Cuthbert 61’
Trosiadau: Rhys Patchell 2’, 40’, 71
Ciciau Cosb: Rhys Patchell 66’, 80’
.
Montpellier
Ceisiau: Jamie Mackintosh 5’, Timoci Nagusa 13’, Julien Malzieu 20’, Charles Geli 76’
Trosiadau: Benoit Paillaugue 6’, Demetri Catrakilis 77’
Cic Gosb: Benoit Paillaugue 12’
Cardiau Melyn: Bismarck Du Plessis 42, Robins Tchale Watchou 43’