Chris Coleman yn gobeithio osgoi Lloegr yn eu grŵp Ewro 2016 (llun: CBDC)
Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi cyfaddef bod y system fydd yn cael ei ddefnyddio i ddewis grwpiau Ewro 2016 ddydd Sadwrn yn un “bisâr”.

Fe fydd Cymru yn yr het am y tro cyntaf ar ôl llwyddo i gyrraedd Pencampwriaethau Ewrop y flwyddyn nesaf, eu twrnament cyntaf ers Cwpan y Byd 1958.

Ond fe fydd y crysau cochion ymysg y pot isaf o ddetholion, gan olygu mwy na thebyg y byddan nhw’n cael gwrthwynebwyr heriol a gemau anoddach nag y bydden nhw wedi hoffi.

Fe allen nhw wynebu Lloegr yn y gystadleuaeth, gan fod y Saeson mewn pot gwahanol, ond fe awgrymodd Coleman ei fod yn awyddus i osgoi eu hwynebu nhw.

Pod Pêl-droed Golwg360 yr wythnos hon yn trafod grwpiau Ewro 2016 a mwy:

‘Herio unrhyw un’

Mynnodd Coleman fodd bynnag nad oedd yn poeni’n ormodol am safle Cymru yn y detholion, ac y byddai llawer o dimau yn awyddus i’w hosgoi nhw pan fydd y grwpiau’n cael eu dewis.

“Mae’n bisâr ein bod ni’n brif ddetholion ar gyfer grwpiau rhagbrofol Cwpan y Byd [2018, gafodd eu dewis yn yr haf] ac yn y detholion isaf ar gyfer hwn,” meddai rheolwr Cymru.

“Pan gafodd y detholiadau ar gyfer hwn eu cyhoeddi ac fe wnes i weld ein bod ni ym Mhot Pedwar roedd e’n eithaf od.

“Ond dw i’n hyderus yn ein gallu ni ar ein dydd – fe allwn ni herio unrhyw un.

“Fe fydd sawl tîm yn y potiau uwch na ni yn edrych ar ba mor dda rydyn ni wedi bod yn chwarae dros y ddwy flynedd diwethaf a meddwl nad ydyn nhw eisiau ein hwynebu ni.”

Osgoi Lloegr

Ychwanegodd Coleman fodd bynnag nad oedd eisiau chwarae yn erbyn Lloegr yn eu grŵp Ewro 2016, rhywbeth mae rheolwr Gogledd Iwerddon Michael O’Neill hefyd wedi’i ddweud.

“Dyw e ddim achos ein bod ni ofn Lloegr – rydyn ni’n sicr yn eu parchu nhw ond dydyn ni ddim eu hofn nhw,” meddai Coleman.

“Dw i jyst yn meddwl y byddai hi’n tynnu rhywfaint o sylw oddi ar bopeth arall.

“Os cewch chi bedwar pwynt fe ewch chi drwyddo o’r grŵp. Os cawn ni Lloegr, ac wedyn gorfod eu chwarae nhw gyntaf, fe fyddai hynny jyst yn tynnu sylw pawb.”

Trefn y dewis

Bydd grwpiau’r gystadleuaeth yn cael eu dewis mewn seremoni ym Mharis am 5.00yp dydd Sadwrn 12 Rhagfyr.

Chwe grŵp o bedwar tîm fydd yn y gystadleuaeth, gyda phob grŵp yn cynnwys un tîm o bob ‘pot’, ac fe fydd 16 tîm yn cael lle yn rownd nesaf y gystadleuaeth.

Mae UEFA eisoes wedi penderfynu ar ddyddiadau a lleoliadau’r gemau, felly unwaith y bydd timau’n cael eu dewis i’w grwpiau fe fyddan nhw’n gwybod pry a ble fyddan nhw’n chwarae.

Pot Un: Sbaen, Yr Almaen, Lloegr, Portiwgal, Gwlad Belg (+ Ffrainc, fel y tîm cartref)

Pot Dau: Yr Eidal, Rwsia, Y Swistir, Awstria, Croatia, Wcráin

Pot Tri: Gweriniaeth Tsiec, Sweden, Gwlad Pwyl, Rwmania, Slofacia, Hwngari

Pot Pedwar: Twrci, Gweriniaeth Iwerddon, Gwlad yr Ia, CYMRU, Albania, Gogledd Iwerddon