Mae pentref bach ger Y Bont-faen wedi ennill ei frwydr i atal cwmni o Gymru rhag ffracio mewn cae ger y pentref.
Cafodd Coastal Oil and Gas Limited ganiatâd i dyllu am nwy siâl gan berchnogion y cae yn Llantriddyd a chaniatâd cynllunio gan Gyngor Bro Morgannwg yn 2013.
Fe barodd y frwydr rhwng y pentrefwyr a’r cwmni am ddwy flynedd a hanner, nes i’r gymuned lwyddo i brynu’r cae lle’r oedd y cwmni yn bwriadu tyllu.
“Rydyn ni wrth ein bodd. Mae’n rhyddhad enfawr,” meddai Siân-Elin Jones, cadeirydd Cymdeithas Trigolion Llantriddyd.
“Ond dyw’n gwaith ni ddim ar ben eto. Dim ond un cae yw hwn, ac os caiff ffracio ei ganiatáu yng Nghymru, byddan nhw ’nôl ryw ddydd,” meddai, gan ddweud y byddan nhw’n parhau i frwydro yn erbyn ffracio yng Nghymru.
Ffracio’n gwneud “dim synnwyr”
Mae’r Llywodraeth yn San Steffan eisoes wedi rhoi caniatâd i gwmnïau ynni ffracio mewn rhannau o Loegr, gan ddweud bod ganddo’r “potensial i ddarparu diogelwch ynni, twf economaidd a swyddi i’r Deyrnas Unedig.”
“Does dim synnwyr ynddo (ffracio),” meddai Keith Ross o Frack-Free Wales.
“Os y’ch chi’n cyfri allyriadau nwyon tŷ-gwydr o ddechrau i ddiwedd y broses cynhyrchu nwy siâl, ac yn cynnwys yr allyriadau methan sy’n dianc tra’i fod yn cynhyrchu, mae (astudiaethau) yn dangos bod allyriadau ffracio yn gallu bod cynddrwg ag allyriadau glo.”
Galw am waharddiad llawn
Ar y llaw arall, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw’n atal unrhyw ymgais i ffracio yng Nghymru nes bod tystiolaeth ar gael yn profi ei fod yn ddiogel.
Ond dydy Keith Ross ddim yn credu bod hyn yn mynd yn ddigon pell: “Tase’r Gweinidog yn gwrthod cais caniatâd cynllunio i ffracio, buasai hawl gan yr ymgeisydd i apelio i’r Arolygydd Cynllunio, a gallai hwnnw ddyfarnu yn erbyn y Gweinidog a rhoi caniatâd i ffracio,” meddai.
“Hoffem ofyn i’r gweinidogion nodi’r gwrthwynebiad cryf sy’n tyfu mewn cymunedau ledled Cymru, a hoffem ofyn iddyn nhw gydweithio â ni tuag at gyflawni gwaharddiad llawn a pharhaol.”