Jill Evans ASE
Mae un o Aelodau Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru wedi galw ar y Comisiwn Ewropeaidd i sicrhau bod modd gwylio rhaglenni Cymraeg unrhyw le yn Ewrop.
Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn y broses o gyflwyno deddfwriaeth ar wylio rhaglenni teledu dros y we o dramor ac mae Jill Evans ASE yn dweud bod angen i hyn hwyluso defnydd y Gymraeg ac ieithoedd lleiafrifol eraill.
Ar hyn o bryd, mae’r broses o ‘geoblocking’ yn blocio mynediad i rai gwefannau ar sail lleoliad y person sy’n ceisio mynd ar y wefan honno a gall hyn effeithio’n negyddol ar siaradwyr Cymraeg, meddai Jill Evans.
Er bydd deddfwriaeth newydd y Comisiwn Ewropeaidd yn hwyluso mynediad i gynnwys ar-lein o dramor, bydd hyn yn newid dros dro yn unig a dim ond o gyfrifon rhyngwladol fel Netflix.
Dadlau’r achos yn Senedd Ewrop heddiw
Mewn seminar yn Senedd Ewrop heddiw, bydd Jill Evans o Blaid Cymru yn dadlau dros sicrhau bod siaradwyr ieithoedd lleiafrifol yn gallu mwynhau rhaglenni yn eu hieithoedd nhw, ble bynnag maen nhw yn y byd.
“Mae Cymry Cymraeg yn byw ar hyd a lled y byd a dylai fod modd iddyn nhw fwynhau rhaglenni Cymraeg dros y we. Mae’n anffodus bod cyfyngiadau ar y rhaglenni hyn weithiau yn ôl lleoliad daearyddol,” meddai Jill Evans ASE.
“Rydyn ni’n gweithio ar lefel Ewropeaidd i weld os oes modd hwyluso’r sefyllfa ar gyfandir Ewrop i ddechrau.
“Wrth gwrs mae’n rhaid parchu rheolau hawlfraint, ond mewn marchnad sengl fel sydd gyda ni yn yr Undeb Ewropeaidd, dylai fod modd oresgyn y problemau presennol.”