Hywel Williams - ergyd i'r economi lleol
Daeth cadarnhad heddiw y bydd 50 o weithwyr y cwmni peirianneg sifil, Mulcair yn colli eu swyddi yng Nghaernarfon.

Mae’r cwmni wedi penderfynu mynd i ddwylo’r gweinyddwyr yn wirfoddol o ddydd Gwener ymlaen, gan gyhoeddi’r newyddion i’w staff ddoe.

Y cwmni, sydd ar Ystâd Ddiwydiannol Cibyn ger Caernarfon, oedd yn gyfrifol am ailadeiladu Pont Briwet tros Afon Dwyryd ac am am ailddatblygu’r Maes yng Nghaernarfon.

Fe ddywedodd Hywel Williams, AS dros Arfon fod hyn yn “ergyd fawr” i weithwyr y safle ac i’r economi lleol.