Peter O’Brien
Mae teuluoedd dau ddyn a gafodd eu lladd mewn ffrwydrad mewn gwaith dur yng Nghaerdydd wedi talu teyrnged iddyn nhw.

Bu farw’r tad i chwech o blant, Peter O’Brien, 51, a Mark Sim, 41, sy’n gadael dau blentyn mewn ffrwydrad yn ffatri Celsa yn ardal Y Sblot yn y brifddinas ar 18 Tachwedd.

Cafodd pedwar person arall eu hanafu a’u cludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau yn ddiweddarach.


Mark Sim
‘Trysori’r amser cawsom gyda’n gilydd’

Roedd Mark Sim yn dod o Gil-y-Coed ac yn beiriannydd mecanyddol. Mae’n gadael ei wraig Samantha a dau blentyn ifanc.

“Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i’r heddlu, Celsa a phawb oedd yn rhan o’r trychineb hwnnw ar Tachwedd 18 a gymrodd fywydau Peter O’Brien a fy ngŵr, Mark Sim,” meddai Samantha Sim yn ei datganiad.

“Roedd Mark yn ymrwymedig i’w swydd a byddai o hyd yn gwneud ei orau ac yn barod i helpu eraill o hyd.

“Byddaf yn trysori’r amser cawsom gyda’n gilydd.”

“Tad a gŵr cariadus”

Roedd Peter O’Brien yn byw yn Llanisien yng Nghaerdydd ac yn beiriannydd trydanol. Roedd yn ŵr i Marie ac yn dad i chwech o blant, rhwng 14 a 23 oed.

“Rydym yn cofio’n annwyl am Dad, yn ŵr cariadus ac yn ffrind gorau i Marie, yn Dad cefnogol a llawn hwyl i Kieran, Hannah, Sean, Rachel, Martha a Dominic, yn fab annwyl i Sheila a Bart ac yn frawd annwyl i Bernard, Kevin a Catherine,” meddai ei deulu.

“Roedd Dad yn ddyn caredig, addfwyn a doniol a oedd yn dwlu ar y pethau syml mewn bywyd – yr awyr agored, gwersylla, llosgi pethau ar y barbeciw ac wrth gwrs, treulio amser gyda’i deulu.”

Bydd angladd Mark Sim yn cael ei gynnal yn Amlosgfa Forest of Dean, Cas-gwent, ddydd Mawrth, Rhagfyr 15 am 3:30pm.

Bydd angladd Peter O’Brien yn cael ei gynnal yn Eglwys Crist y Brenin, Llanisien, ddydd Iau, Rhagfyr 10 am 1pm.

Ymchwiliad yn parhau

Cafodd cwest yn Llys y Crwner Caerdydd ei agor a’i ohirio ddydd Mercher diwethaf ac nid yw’n glir ar hyn o bryd beth achosodd y ffrwydrad.

Mae ymchwiliad ar y cyd rhwng Heddlu De Cymru a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn parhau.