Donald Trump
Mae mwy na 100,000 o enwau ar ddeiseb sy’n galw am wahardd Donald Trump, un o’r ymgeiswyr arlywyddol Gweriniaethol yn America,  rhag cael mynediad i’r Deyrnas Unedig.

Mae’r nifer sydd wedi llofnodi’r ddeiseb yn golygu y bydd yn rhaid i Dŷ’r Cyffredin ystyried trafod y mater yn y Senedd.

Ar ddechrau’r wythnos, cafodd Donald Trump ei feirniadu’n chwyrn ar ôl iddo ddweud y dylai Mwslimiaid gael eu gwahardd yn llwyr rhag cael mynediad i’r Unol Daleithiau yn sgil ymosodiadau brawychol diweddar.

Dywedodd ymgeisydd arlywyddol y Gweriniaethwyr y dylai’r gwaharddiad barhau “nes bod cynrychiolwyr ein gwlad yn gallu darganfod beth sy’n mynd ymlaen.”

Dywedodd hefyd fod rhannau o Brydain wedi cael eu “radicaleiddio cymaint” nes bod yr heddlu’n “ofni am eu bywydau.”

AS yn cefnogi galwadau i’w wahardd

Mae’r AS Llafur yn Llundain, Tulip Siddiq wedi cefnogi’r galwadau i wahardd Trump rhag dod i’r DU.

“Byddem yn dweud wrtho nad oes croeso iddo yn ein gwlad yn yr un ffordd y mae ef am wahardd pobol fel fi rhag mynd i mewn i’w wlad ef,” meddai wrth BBC Radio London.

“Mae gennyf i deulu sy’n byw yn America sy’n ystyried eu hunain yn Americanwyr. Mae’n ceisio fy atal i rhag mynd i’w wlad, wel hoffen i ei atal ef rhag dod i fy ngwlad i.”

Fe fyddai cynlluniau Donald Trump yn cynnwys gwahardd mewnfudwyr ac ymwelwyr Mwslimaidd i’r Unol Daleithiau.

Daeth ei sylwadau yn sgil ymosodiad ar ganolfan gwasanaethau cymdeithasol yng Nghaliffornia wythnos ddiwethaf pan gafodd 14 o bobl eu lladd. Credir bod gan y cwpl a oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad dueddiadau eithafol.

Mae’r ymgeiswyr Gweriniaethol eraill ac aelodau’r blaid wedi beirniadu sylwadau Donald Trump.