Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cyhoeddi bod y rheolwr Garry Monk wedi gadael ei swydd.

Dywedodd y cadeirydd Huw Jenkins ar wefan y clwb ei fod yn “gyndyn” o wneud y penderfyniad, a’i fod wedi’i wneud “gyda chalon drom”.

Ychwanegodd fod y clwb yn gobeithio penodi olynydd “mor fuan â phosib”.

Cafodd tynged Monk ei selio wedi i’r Elyrch golli o 3-0 yn erbyn Caerlŷr yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn diwethaf.

Rhan o’r clwb

Bydd yr Elyrch nawr yn chwilio am eu pedwerydd rheolwr ers iddyn nhw gael eu dyrchafu i Uwch Gynghrair Lloegr yn 2011.

Llynedd, yn ei dymor llawn cyntaf fel rheolwr, fe arweiniodd Monk y tîm i’w safle uchaf erioed yn yr Uwch Gynghrair.

Ond eleni, ar ôl dechrau’r tymor yn dda, dim ond un o’u 11 gêm ddiwethaf y mae Abertawe wedi ennill.

Cyn iddo gymryd yr awenau oddi wrth Michael Laudrup yn 2014 roedd Monk yn rhan o garfan Abertawe, ac fe chwaraeodd dros y clwb ym mhob un o adrannau cynghrair Lloegr wrth i’r Elyrch godi i’r Uwch Gynghrair.

‘Penderfyniad anffodus’

Mewn datganiad prynhawn ddydd Mercher dywedodd Huw Jenkins eu bod wedi diswyddo Monk “â chalon drom” a’i bod yn benderfyniad anodd tu hwnt.

“O ystyried y dirywiad mewn lefel perfformiadau a’r rhediad o ganlyniadau dros y tri mis diwethaf, mae hynny wedi’n harwain ni at y penderfyniad anffodus heddiw,” meddai’r cadeirydd.

“Doedd hi ddim yn benderfyniad hawdd i ni ei wneud, yn enwedig o gofio hanes Garry gyda’r clwb a’r parch tuag ato.

“Rydyn ni’n dymuno’n dda i Garry ar gyfer y dyfodol ac am ddiolch iddo am ei wasanaeth hynod, nid yn unig fel chwaraewr dros y ddegawd ddiwethaf, ond hefyd fel ein rheolwr. Bydd wastad croeso mawr iddo yn y clwb pêl-droed.”

Mae cyn-reolwr Abertawe a Lerpwl, Brendan Rodgers a chyn-reolwr Sunderland Gus Poyet eisoes wedi cael eu cysylltu â swydd Abertawe, tra bod eraill megis Mark Warburton a David Moyes hefyd wedi cael eu crybwyll.