Mae Mabon ap Gwynfor yn dweud y dylai hanes Antur Aelhaearn fod yn rhan o’r cwricwlwm yng Nghymru “fel bod plant sydd yn byw yn eu cymunedau yn cael eu gwreiddio yn eu cymunedau ac yn dysgu gwerth cydweithio cymunedol er lles yr holl gymuned ac nid er lles unigolyddol”.

Daw sylwadau Aelod Plaid Cymru o’r Senedd yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd ar y cyfryngau cymdeithasol ac wrth siarad â golwg360 wrth iddo ymateb i farwolaeth Dr. Carl Clowes, a fu’n allweddol wrth sefydlu’r Antur sydd wedi ysbrydoli nifer fawr o fentrau cymunedol cydweithredol tebyg ledled Cymru.

Yn 1974, roedd Dr. Carl Clowes yn feddyg ifanc yn Llŷn ac fe benderfynodd fynd ati i ymgyrchu a brwydro yn erbyn dirywiad cymunedau wrth i fwy a mwy o bobol adael gan achosi dirywiad economaidd.

Cafodd Antur Aelhaearn ei sefydlu fel menter annibynnol er lles y gymuned i greu gwaith i bobol leol ac i wneud defnydd o adeiladau a fyddai fel arall yn ail gartrefi.

Dr Carl Clowes oedd cadeirydd cychwynnol yr Antur, sef y Gydweithfa Gymunedol gyntaf yn y Deyrnas Unedig yn 1974 a gafodd ei sefydlu er mwyn achub yr ysgol leol.

Wrth iddo ymwneud fwyfwy â mentrau lleol tebyg, aeth yn ei flaen i droi hen adeilad lleol yn Ganolfan Nant Gwrtheyrn.

‘Gwaith arloesol’

“Ges i ambell sgwrs gyda Dr. Carl yn ddiweddar am y gwaith arloesol roedd o wedi’i wneud yn Llanaelhaearn,” meddai Mabon ap Gwynfor.

“Mi wnes i bodlediad gyda Carl yn trafod gwreiddiau’r Antur, hanes yr Antur a’r ffordd roedd Carl a’r criw wedi dod a gweld y gwendidau cymdeithasol, y gwendidau iechyd a’r gwendidau iechyd meddwl a phenderfynu bod angen mynd i’r afael â hyn a gweithredu ar sail hynny a ffeindio’r ffordd orau o weithredu i ddatrys problemau oedd yn datblygu yn Llanaelhaearn.”

Mae’n dweud mai ateb yr Antur i’r problemau hyn oedd datblygu busnes cynhenid lle roedd y gymuned yn rhanddeiliaid yn y fenter.

“Roedd e’n dod â balchder bro yn ôl, yn rhoi rheswm a phwrpas i bobol eto ac mae honna’n neges mor, mor bwysig am rôl cymuned, gwerth cymdeithas ac am rôl cydweithio a gweithio gyda’i gilydd er lles ei gilydd a lles cyffredin, cymunedol,” meddai.

“Mae hwnna, i fi, yn sylfaen bwysig yn economaidd ac yn werth pwysig i blant ei ddysgu, hynny ydi mae’n dangos bod posib cael llwyddiant, nid llwyddiant personol ond llwyddiant cymunedol trwy gydweithio.”

Tai haf

Wrth drafod ymdrechion Dr. Carl Clowes a’r Antur i sicrhau bod adeiladau lleol yn cael eu defnyddio at ddibenion cadw pobol yn eu cymunedau a sicrhau gwaith iddyn nhw drwy sefydlu busnesau yn y tai hyn, dywed Mabon ap Gwynfor fod hynny’n “arloesol”.

“Roedd yr hyn roedden nhw’n sôn amdano yn ôl ar ddechrau’r 1970au, y sôn am dwristiaeth gynaladwy, y sôn am dai haf oedd yn fater mawr yn yr ardal yna bryd hynny fel mae e heddiw, y sôn am yr angen i gael tai fforddiadwy o ansawdd i bobol leol i fedru fforddio byw yn eu cymuned, y sôn am swyddi safonol yn rhoi gwaith yn ôl i bobol a balchder i bobol i weithgynhyrchu, i fyw yn yr ardal – roedd hynny i gyd hanner can mlynedd yn ôl ac rydyn ni’n dal i siarad am y problemau yma heddiw,” meddai wedyn.

“Roedden nhw wedi dod â datrysiad i lot o’r problemau yna hanner can mlynedd yn ôl, ac rydyn ni’n dal yn stryglo o ran polisi yng Nghymru heddiw i ddod lan ag atebion, lle mae’r atebion hynny wedi bod gyda chymuned Llanaelhaearn ers hanner can mlynedd.”

Cysylltu’r Antur â Phlaid Cymru

Mewn fideo o 1975 yn trafod hanes yr Antur, sydd wedi cael ei rhannu gan Mabon ap Gwynfor, roedd rhai yn feirniadol o’r cysylltiadau rhwng Antur Llanaelhaearn a Phlaid Cymru, y blaid y bu Dr. Carl Clowes yn ymgeisydd seneddol drosti yn etholaeth Sir Drefaldwyn yn 1979, 1983 a 1987.

Yn ôl Mabon ap Gwynfor, roedd y cysylltiadau hynny, felly, yn anochel.

“Roedd Carl yn ymgeisydd y blaid dair gwaith yn Sir Drefaldwyn ac yn ôl fy nealltwriaeth i, y rheswm roedd o yn y Blaid oedd, nid achos bod o’n credu mewn tribalism gwleidyddol ond roedd o’n gweld ar y pryd mai’r Blaid oedd y cerbyd gwleidyddol gorau i wireddu’r weledigaeth yma.

“Y Blaid oedd y blaid wleidyddol agosaf at ei ddelfrydau fo, a cherbyd oedd y Blaid, felly, er mwyn gwthio’r syniadau hyn ymlaen. Dyna, ar ddiwedd y dydd, ydi pob plaid wleidyddol.

“Roedd o’n eithaf agored ei gefnogaeth i’r Blaid, ond doedd o ddim yn dweud bod y Blaid yn berffaith o bell ffordd.

“Roedd o’n cyfrannu yn werthfawr iawn i ddadleuon a thrafodaethau mewnol y Blaid ar wahanol faterion.”

Yr Antur heddiw

Wrth drafod gwaddol Dr. Carl Clowes a chyfraniad Antur Aelhaern at y cysyniad o fentrau cydweithredol ledled Cymru, dywed Mabon ap Gwynfor y bu ef a Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, yn ymweld â’r Antur ddiwedd yr wythnos ddiwethaf.

“Roedden ni’n siarad â saer coed ifanc lleol sydd wedi llogi rhan o adeilad yr Antur, a’i deulu o yn llogi’r adeilad fel gwaith coed ac yn bwriadu agor caffi bach cymunedol yno,” meddai.

“Mae gynnon nhw weithfeydd gwnïo a gwneud dillad hefyd.

“Mae’r Antur wedi datblygu, yn ôl yr hyn ro’n i wedi gweld, gae neu ardd gymunedol, maes chwarae cymunedol, roedden nhw’n edrych ar y capel ac roedd gynnon nhw gynlluniau ar gyfer yr hen ysgol hefyd.

“Felly maen nhw’n fyw ac yn iach, yn parhau i weithredu ar ran y gymuned gyda’r gymuned yn rhanddeiliaid allweddol i’r Antur.”

Mentrau tebyg

Yn ôl Mabon ap Gwynfor, mae gwaith yr Antur yn, ac wedi, cael ei ddefnyddio fel sail i greu mentrau tebyg mewn rhannau eraill o Gymru.

“Mae’r Antur wedi ysbrydoli nifer fawr iawn o fentrau cydweithredol cymunedol,” meddai.

“Mae Tafarn y Fic yn Llithfaen yn un enghraifft, Pengwern yn Llan Ffestiniog yn un arall a’r gwaith mae Cwmni Bro yn ei wneud ym Mro Ffestiniog yn waddol i lot o’r gwaith mae’r Antur yn ei wneud.

“Gan mai’r Antur oedd y fenter gydweithredol, gymunedol gyntaf yn y Deyrnas Gyfunol, ac fel mae Carl wedi sôn sawl gwaith, roedd yna bapurau a phobol ar draws y byd wedi cysylltu efo’r Antur yn y dyddiau cynnar yna.

“Mae’n amlwg, felly, fod gwaith yr Antur wedi sbarduno lot o gwmnïau cydweithredol, cymunedol eraill sydd yn fyw ac yn iach heddiw.

“Mae gwaddol Carl yn gyfoethog iawn, ac mae’n diolch ni’n fawr iawn i Carl am yr oes o gyfraniad mae e wedi’i wneud, nid yn unig i Gymru ond mae rhywun yn meddwl am Lesotho hefyd, Dolen Cymru – y cyswllt rhyngwladol – a’r ffaith fod o’n rhoi pobol eraill flaenaf drwy’r amser.”

Dr Carl Clowes

Dr Carl Clowes wedi marw

Roedd yn gadeirydd a sylfaenydd Canolfan Nant Gwrtheyrn