Hedley McCarthy
Mae arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Hedley McCarthy wedi ymddiswyddo yn sgil pryderon am ad-drefnu llywodraeth leol.

Mewn datganiad, dywedodd McCarthy fod ei bedair blynedd wrth y llyw wedi bod yn flynyddoedd “gwaeth na blynyddoedd Thatcher”.

McCarthy yw’r unig aelod o’r Cyngor fu’n arweinydd ar ddau achlysur.

Serch hynny, dywedodd ei fod yn falch o’r hyn yr oedd wedi’i gyflawni yn ei swydd.

Wrth gyhoeddi’i ymddiswyddiad, dywedodd ei fod yn hyderus y gallai’r Cyngor godi unwaith eto o’r mesurau arbennig a gafodd eu cyflwyno yn 2011.

Er ei fod yn ymddiswyddo fel arweinydd, dywedodd y byddai’n croesawu’r cyfle i ddychwelyd i’r Cyngor yn y dyfodol o dan arweinydd newydd.

‘Pryderon difrifol’

Awgrymodd McCarthy nad oedd yn teimlo mai fe yw’r person mwyaf addas i arwain y Cyngor yn y cyfnod yn arwain at etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai oherwydd “pryderon difrifol” am y ffordd y mae llywodraeth leol wedi cael ei had-drefnu.

“Hwn yw’r cyfnod mwyaf anodd a heriol yn hanes llywodraeth leol, yn waeth na blynyddoedd Thatcher, ac rwy’n ofni’r toriadau sy’n cael eu cyflwyno gan y llywodraeth Geidwadol.”

Wrth restru ei gyflawniadau, dywedodd McCarthy ei fod yn falch o gael cynnal darlith canmlwyddiant Michael Foot, sefydlu cofeb i’r Holocost, sefydlu grŵp tlodi sirol, arwain protest i San Steffan ar ddiwrnod y Gyllideb, sefydlu grŵp i gefnogi ffoaduriaid a gwrthwynebu Bil yr Undebau Llafur.

Dywedodd mai “braint” oedd cael croesawu arweinydd y Blaid Lafur i Dredegar dros yr haf.

Diolchodd i’r Cyngor am y cyfle i’w arwain.