David Cameron
Doedd Prif Weinidog Prydain, David Cameron ddim yn bwriadu awgrymu bod gwrthwynebwyr i’w gynlluniau i fomio Syria yn “cydymdeimlo â brawychwyr”, yn ôl yr Ysgrifennydd Tramor, Philip Hammond.

Cafodd aelodau’r Blaid Lafur eu cythruddo pan ymbiliodd Cameron ar y Blaid Geidwadol i beidio ochri gyda “chriw o rai sy’n cydymdeimlo â brawychwyr” pan fydd pleidlais yn San Steffan heno.

Mae llefarydd ar ran arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn wedi beirniadu’r sylwadau.

Ond mae Philip Hammond yn mynnu nad oedd bwriad i ladd ar wrthwynebwyr i ryfeloedd a’r sawl sydd â safbwyntiau “diffuant”.

Awgrymodd Hammond mai Ken Livingstone oedd targed y sylwadau, ar ôl i gyn-Faer Llundain awgrymu bod bomwyr 7/7 yn Llundain wedi “aberthu eu bywydau” tros achos yr oedden nhw’n credu’n gryf ynddo.

‘Cydwybod’

Dywedodd Hammond wrth raglen Good Morning Britain ar ITV fod sylwadau Livingstone yn cydymdeimlo a phobol “na fyddai cydymdeimlad gan y rhan fwyaf ohonom iddyn nhw”.

“Dw i ddim yn credu bod y Prif Weinidog yn bwriadu cyhuddo’r rhan fwyaf o bobol sydd yn ein herbyn ni yn y ddadl hon gan ddweud bod ganddyn nhw’r safbwyntiau hynny.

“Rydyn ni’n gwybod y bydd nifer o bobol ar ochr arall y ddadl hon wedi brwydro’n hir gyda’u cydwybod.”

Pe bai’r senedd yn cytuno, fe allai cyrchoedd bomio ddechrau yn Syria o fewn ychydig ddiwrnodau.

Er mwyn cynnal y ddadl heddiw, mae Sesiwn Holi’r Prif Weinidog wedi’i chanslo.

Mae disgwyl i hyd at 50 o aelodau seneddol Llafur gefnogi’r Llywodraeth, sy’n golygu y bydd dwy araith yn cael ei thraddodi gan aelodau’r wrthblaid.

Mae’r Unoliaethwyr Democrataidd a’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn cefnogi’r cyrchoedd bomio.

Ond fe fydd yr SNP yn gwrthwynebu.

Mae o leiaf 110 o aelodau seneddol eisoes wedi cefnogi gwelliant i geisio atal y cyrchoedd bomio am y tro, a hwnnw’n cael ei gyflwyno gan y Ceidwadwr John Baron ac arweinydd yr SNP yn San Steffan, Angus Robertson.