Mae pedwar dyn yn eu 30au wedi cael eu harestio ar amheuaeth o frawychiaeth.

Cafodd y dynion eu harestio yn Luton bore ma gan swyddogion o Scotland Yard a heddlu gwrth-frawychiaeth.

Maen nhw’n cael eu holi yng ngorsaf yr heddlu yn Llundain ar amheuaeth o fod yn gysylltiedig â chomisiynu, paratoi ac annog gweithredoedd brawychol.

Cafodd timau eu hanfon i saith eiddo yn Luton.

Dywed  Scotland Yard bod y cyrch yn rhan o ymchwiliad sy’n canolbwyntio ar ardal Luton ac yn pwysleisio nad oes cysylltiad gyda’r ymosodiadau ym Mharis.