Mae undeb ffermio wedi cyhuddo Cyfoeth Naturiol Cymru o fethu â rhwystro llifogydd ar draws tir gwastad ar Ynys Môn.

Yn ôl Undeb Amaethwyr Cymru, mae rhannau o ganolbarth a de Ynys Môn yn parhau i ddioddef llifogydd yn rheolaidd oherwydd “diffyg gweithredu” ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae tirfeddianwyr ar draws Cors Malltraeth, sy’n gorchuddio tir gwastad a chorsydd rhwng Llangefni a Malltraeth, yn dweud eu bod wedi gorfod achub anifeiliaid a’u bywoliaeth yn sgil llifogydd yr wythnos diwethaf.

Mae’r ardal – sy’n cael ei hystyried yn Ardal Draenio Mewnol – yn cael ei gwarchod gan glawdd a chyfres o ffosydd a llifddorau sy’n cael eu hagor i ryddhau dŵr o afon Cefni, ond sydd ar gau i ddiogelu’r tir rhag y llanw uchel yn y gaeaf.

Ond er eu bod ar hyn o bryd yn talu cyfraddau blynyddol i Cyfoeth Naturiol Cymru am gynnal a chadw’r ffosydd a’r afon, maen nhw’n honni bod y gwaith wedi’i leihau i dorri’r llystyfiant yn ôl, gan adael llai o le i’r dŵr lifo ac arwain at lifogydd blynyddol.

Mae’r undeb nawr yn dweud wrth Cyfoeth Naturiol Cymri mai “digon yw digon”.

Yn ôl penaethiaid amgylcheddol sy’n cynnal a gwella amddiffynfeydd yr Afon Ceint, sy’n diogelu tir amaethyddol yn bennaf, “nid oes modd blaenoriaethu hyn dros ddiogelu cymunedau sydd mewn mwyaf o berygl ar hyn o bryd”.

“Difetha bywoliaeth”

Dywedodd swyddog gweithredol Undeb Amaethwyr Cymru ar Ynys Môn, Alaw Jones: “Mae’r broblem yn ddeublyg – clirio’r ffosydd a gwelyau afonydd a gweithredu’r llifddorau.

“Tan yn ddiweddar roedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn clirio’r ffosydd a charthu’r afonydd yn llawer cynt yn y tymor ond nawr maen nhw’n dweud nad oes ganddyn nhw’r gyllideb.

“Mae hyn yn difetha bywoliaeth ffermwyr ac mae’n gorlifo tir o safon sy’n cynhyrchu bwyd.”

“Blaenoriaethu”

Wrth ymateb dywedodd Dylan Williams, Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae ein gwaith i leihau perygl llifogydd yn cael ei flaenoriaethu, yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru, i amddiffyn pobl a’u heiddo rhag perygl llifogydd.

“Ni ellir blaenoriaethu cynnal a gwella arglawdd Afon Ceint, sy’n diogelu tir amaethyddol amddiffyn cymunedau sydd fwyaf mewn perygl ar hyn o bryd

“Wrth i ni ddatblygu opsiynau i leihau perygl llifogydd yn Llangefni, bydd swyddogaeth arglawdd Cefni yn cael ei hystyried yn llawn.

“Mae newid hinsawdd yn realiti ac mae’n effeithio arnom mewn sawl ffordd – hafau sychach, gaeafau gwlypach, a stormydd amlach.

“Rydym eisoes yn ystyried pa effaith y bydd hyn yn ei gael ar liniaru llifogydd a sut, fel sefydliad, y gallwn helpu cymunedau i ymateb i’r digwyddiadau hyn.”