Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd am wyntoedd cryfion mewn nifer o ardaloedd ar hyd arfordir Cymru ddydd Sul.
Gallai’r gwyntoedd gyrraedd cyflymdra o hyd at 70 milltir yr awyr.
Mae rhybudd melyn mewn grym tan 8 o’r gloch nos Sul, sy’n rhybuddio pobol i fod yn ‘ymwybodol’ o’r peryglon.
Mae’r gwyntoedd eisoes wedi cael effaith ar deithwyr yn ystod y bore.
Mae pontydd Britannia ym Môn a Chleddau yn Sir Benfro ar gau i gerbydau uchel, ac mae gwasanaethau fferi o Abergwaun i Iwerddon ac o Gaergybi i Ddulyn wedi cael eu canslo.
Mae Pont Cleddau yn Sir Benfro, a Phont Britannia ar Ynys Môn ar gau i gerbydau uchel.
Mae disgwyl hefyd y bydd hyd at 80mm o law yn cwympo ddechrau’r wythnos.