Cafodd Tyson Fury o Fanceinion ei goroni’n bencampwr pwysau trwm y byd yn dilyn buddugoliaeth annisgwyl dros Wladimir Klitschko yn Dusseldorf nos Sadwrn.
Bu Klitschko, deilydd teitlau WBA, WBO ac IBF y byd, yn bencampwr y byd ers naw mlynedd, ond cafodd ei guro ar bwyntiau gan Fury (155-112 gan ddau feirniad, ac 116-111 gan y trydydd beirniad).
Fury yw wythfed pencampwr y byd o wledydd Prydain yn y pwysau trwm.
Yn dilyn ei fuddugoliaeth, dywedodd Tyson Fury wrth ei wrthwynebydd: “Rwyt ti’n bencampwr gwych Wlad, diolch yn fawr am fy nghael i.
“Roedd yn hwyl a sbri yn arwain i fyny [at yr ornest], ro’n i jyst am fod yn hyderus, yn ifanc ac yn hy.”
Dywedodd Fury wrth Radio 5 Live: “Fe ddywedais i o hyd beth fyddwn i’n ei wneud ac rwy wedi cwblhau hynny heno.”
Roedd amheuaeth a fyddai’r ornest yn cael ei chynnal o gwbl yn dilyn pryderon am fenyg a chyflwr y gynfas.