Mae cynlluniau i adeiladu sied sy’n dal 32,000 o ieir yn Ynys Môn wedi cael eu cymeradwyo gan y cyngor sir.

Dyma fydd y safle ieir mwyaf o’i fath ar yr ynys, gydag arwynebedd o dros 3,200 metr sgwâr.

Roedd 18,000 o ymgyrchwyr hawliau anifeiliaid wedi arwyddo deiseb gan PETA y llynedd yn gwrthwynebu’r datblygiad yn Llannerchymedd, fydd yn arwain at greu dwy swydd barhaol.

Dywedodd y Cynghorydd John Griffith bod maint y sied, sy’n 68 metr o hyd, yn “rhywbeth fyddech chi’n disgwyl ar stad ddiwydiannol, nid yng nghefn gwlad”.

Roedd Cyngor Cymuned Llannerchymedd hefyd wedi gwrthwynebu’r cynlluniau oherwydd pryderon dros yr amgylchedd a thraffig.

Ond ar ôl cael eu sicrhau y byddai unrhyw effeithiau amgylcheddol yn cael eu lliniaru, fe wnaeth y pwyllgor cynllunio gefnogi codi’r sied mewn cyfarfod ddydd Mercher, Medi 1.

Cymeradwyo

“Ar ôl pwyso a mesur, rydyn ni’n ystyried bod y cynlluniau’n parchu polisïau cynllunio drwy ddarparu cyfle economaidd yng nghefn gwlad ac amddiffyn yr amgylchedd ar yr un pryd,” meddai adroddiad swyddogion y pwyllgor cynllunio.

“Mae’r datblygiad yn un sy’n ymrwymo i wella’r ecoleg a’r dirwedd.

“Rydyn ni wedi ystyried yn ofalus yr effaith ar eiddo cyfagos, ac wedi dod i gasgliad na fydd y datblygiad yn cael effaith ar yr eiddo preswyl hyn.”