Bydd mwy o wasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru ar gael o ddydd Llun nesaf (13 Medi) ymlaen.
Mae cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru yn cael eu hannog i wirio manylion eu taith, gan y bydd amserlenni newydd yn dod i rym ar draws eu rhwydwaith yng Nghymru a’r Gororau.
Bydd y newidiadau yn golygu bod cynnydd cyffredinol o 8.5% mewn gwasanaethau.
Yn ogystal, bydd dau drên pellter hir ‘Mark IV’ yn cael eu cyflwyno, a fydd yn cynnwys gwasanaethau arlwyo a lluniaeth.
Mae’r newidiadau yn cynnwys ailgyflwyno gwasanaeth uniongyrchol rhwng Caergybi a Chaerdydd.
Er na fydd y newidiadau yn effeithio ar amseroedd llawer o wasanaethau, dylai cwsmeriaid wirio eu hamseroedd gadael, cyrraedd, a chysylltiadau i drenau eraill yn drylwyr.
Gwirio manylion
Dywedodd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru, eu bod nhw wedi gorfod addasu rhywfaint ar yr amserlen er mwyn cyflwyno mwy o wasanaethau.
“Mae hyn yn golygu ei bod yn bwysig iawn bod cwsmeriaid yn gwirio manylion eu taith cyn teithio,” meddai Colin Lea.
“Rydyn ni’n disgwyl y bydd mwy o bobl yn defnyddio ein gwasanaethau, felly bydd ein teclyn Gwirio Capasiti yn ddefnyddiol iawn i helpu cwsmeriaid gynllunio i deithio pan fydd gwasanaethau’n dawelach.
“Ers llacio cyfyngiadau, rydym yn falch iawn ein bod wedi gallu croesawu llawer o gwsmeriaid yn ôl.
“Mae teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn well i’r amgylchedd, ac mae llawer o bobl wedi cael eu hynysu ers amser maith. Rydyn ni’n hapus dros ben bod pobl yn dychwelyd i ddefnyddio opsiynau teithio mwy cynaliadwy.”
Mae gwisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus dal yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru, a rhaid gwisgo gorchudd wyneb mewn gorsafoedd caeedig hefyd.
Newidiadau
Gwasanaethau’r Cymoedd: cynyddu’r gwasanaethau i Dreherbert, Merthyr Tudful ac Aberdâr i ddau yr awr, a gwasanaethau ychwanegol i Ystrad Mynach a Bargoed.
Ynys y Barri / Penarth: Tri thrên yr awr i’r Barri, a phedair yr awr i Benarth.
Llinell y Ddinas / Llinell Coryton: cynyddu’r gwasanaeth i ddau drên yr awr. Oherwydd gwaith adfer hanfodol i bont reilffordd yng nghanol y ddinas, ni fydd unrhyw wasanaethau uniongyrchol rhwng Coryton a Radur, ac eithrio gwasanaeth uniongyrchol 07:45 Coryton i Radur a 14:59 Radur i Coryton ddydd Llun – dydd Gwener. Bydd gwasanaethau’n rhedeg rhwng Coryton a Bae Caerdydd a rhwng Radur a Chanol Caerdydd. Gellir defnyddio gwasanaethau eraill i gysylltu rhwng Caerdydd Heol y Frenhines a Chaerdydd Canolog.
Gwennol Bae Caerdydd: Gwasanaethau 08:07 o Gaerdydd Heol y Frenhines i’r Bae yn rhedeg fel bws o ddydd Llun i ddydd Gwener, a’r gwasanaeth yn ôl am 08:14 hefyd.
Caergybi i Gaerdydd: Ailgyflwyno gwasanaethau uniongyrchol rhwng Caergybi a Chaerdydd.
Stopiau Gwasanaeth Ychwanegol: Mwy o wasanaethau yn stopio yn Prees ac Yorton, a bydd gwasanaethau dydd Sul yn stopio mewn gorsafoedd lleol rhwng Amwythig a Birmingham.
Wrecsam i Bidston: Gwasanaeth 12:34 Wrecsam i Bidston a 13:34 yn ôl yn rhedeg fel bws yn lle trên o ddydd Mawrth i ddydd Iau oherwydd hyfforddiant gyrwyr.
Lein y Cambrian: Bws yn lle trên rhwng Pwllheli a Machynlleth, oherwydd gwaith adfer hanfodol i Draphont Abermaw.