Mae pentref bach ym Mhowys yn anelu at ddod yn ganolbwynt i chwaraewyr pŵl ledled y wlad.

Mewn cais i Gyngor Powys, dywedodd perchennog canolfan gymunedol pentref Abercraf, Paul Bushnell, ei fod yn bwriadu cynnal twrnameintiau pŵl yno.

Gallai’r cystadlaethau hyn ddenu tua 100 o chwaraewyr gwahanol i ornestau yn Neuadd y Glowyr, yn cynnwys rhai sydd wedi cynrychioli Cymru, gyda bwriad maes o law i gynnal cystadlaethau mwy uchelgeisiol yno.

Roedd sôn hefyd ei fod wedi ceisio ymestyn ei drwydded i allu agor y neuadd mor gynnar ag wyth o’r gloch y bore, ac fe wnaeth hynny godi gwrychyn trigolion lleol.

Penderfyniad

Mae Paul Bushnell yn pwysleisio na fyddai’r neuadd yn agor mor gynnar â hynny.

“Rwy’n rhedeg llawer o’r digwyddiadau yng Nghymru,” meddai.

“Maen nhw’n digwydd oddeutu bob dwy i dair wythnos.

“Maen nhw’n tueddu i ddechrau am naw’r bore a mynd ymlaen tan yn hwyrach na’r oriau agor os ydyn nhw’n gor-redeg – ond mae hynny’n beth prin iawn.

“Doeddwn i erioed wedi bwriadu agor am yr oriau hynny’n barhaol – fe gefais fy nghynghori i gadw oriau unffurf yn hytrach na’u cymysgu.”

Fe gytunodd y Cyngor ar y cais yn y pen draw, gan ddweud y byddai’n rhaid i’r neuadd ond cadw at oriau rhesymol a chanllawiau penodol tra bod ysgolion ar agor.

Mae modd i’r neuadd fod ar agor am oriau hirach yn ystod y penwythnos.