Mae cynlluniau i adeiladu 23 o dai fforddiadwy ym Mhentraeth wedi cael eu pasio.
Cafodd cynigion cymdeithas dai Clwyd Alyn ar gyfer Lôn Llwyd ganiatâd aelodau Pwyllgor Cynllunio Cyngor Môn ddydd Mercher.
Byddai’r cynllun yn cynnwys pedwar fflat un llofft, a thai dwy, tair, a phedair llofft. Yn ôl Clwyd Alyn, bydden nhw’n helpu i gefnogi’r Gymraeg yn lleol, gan ychwanegu at stoc y tai rhent cymdeithasol.
Fe wnaeth swyddogion gadarnhau bod y safle yn ffinio â therfynau datblygu penodedig Pentraeth, ac wedi’i lleoli o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol.
Ychwanegodd Mr Dewi Francis Jones, fodd bynnag, fod polisïau mewn lle i ganiatáu prosiectau o’r fath sy’n cynnwys cartrefi fforddiadwy’n unig ac yn cwrdd â gofynion lleol, gan gadarnhau bod swyddogion tai’r awdurdod yn fodlon bod yna alw am y fath eiddo yn y pentref.
Gwrthwynebiad
Honnodd y Cynghorydd Margaret Murley Roberts, a alwodd am i’r cynnig gael ei ystyried gan y pwyllgor, nad oedd digon o wybodaeth wedi’i gynnwys yn y cynnig.
Denodd y cynnig 40 llythyr yn gwrthwynebu ar sail ffactorau megis anaddasrwydd y systemau garthffosiaeth a draeniau, pryderon am ddiogelwch ffordd, a diffyg isadeiledd gan gynnwys pwysau ychwanegol ar ysgol y pentref.
Ond ni wnaeth Cyngor Cymuned Pentraeth wrthwynebu.
Dywedodd adroddiad swyddogion cynllunio’r cyngor, “Mae’r cais yn dderbyniol o ran y polisi cyfan a bydd yn cynnig tai fforddiadwy mawr eu hangen ym Mhentraeth.
“Er bod y safle o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ar gydbwysedd, ac ar ôl ystyried mesurau lliniaru a gwelliannau sy’n cael eu cynnig, rydyn ni’n ystyried bod y datblygiadau sy’n cael eu cynnig yn dderbyniol ac yn cyflenwi’r angen am dai annedd fforddiadwy ym Mhentraeth na ellir eu cyflenwi ar safleoedd eraill o fewn y terfyn datblygu.”
Dywedodd y Cynghorydd Ken Hughes, aelod o’r pwyllgor, y dylid cymeradwyo’r cais yn sgil y diffyg tai rhent cymdeithasol sydd ar gael dros yr ynys.
“Fel mae ymchwil wedi’i ddangos, mae yna angen yn yr ardal benodol hon, ac felly dw i’n hapus i gynnig ein bod ni’n derbyn yr argymhelliad,” ychwanegodd.
Cafodd y cais gymeradwyaeth saith aelod, ni wnaeth neb bleidleisio yn erbyn, ac fe wnaeth un person atal ei bleidlais.