Mae Coleg Etholiadol yr Eglwys yng Nghymru wedi methu ag ethol esgob ar gyfer Abertawe ac Aberhonddu.

Ers ddydd Mercher roedd aelodau o’r coleg etholiadol wedi’u cloi yn Eglwys y Santes Fair, Abertawe er mwyn dod i benderfyniad.

Roedd gan y coleg dridiau i wneud eu dewis a’r disgwyl yw y byddai enw’r esgob newydd yn gael ei gyhoeddi yn ffurfiol y tu allan i ddrws gorllewinol yr eglwys.

Ond mewn neges ar eu cyfrif Twitter brynhawn ddoe (dydd Gwener) nododd yr Eglwys yng Nghymru nad oes esgob wedi’i ethol.

Fe ddaeth y swydd yn wag wedi i Archesgob Cymru, John Davies, oedd hefyd yn Esgob Abertawe ac Aberhonddu, ymddeol ym mis Mai.

Esgobion

Yr esgob newydd fyddai degfed Esgob Abertawe ac Aberhonddu.

Wedi’r cyfarfod, dywedodd Andy John, Esgob Bangor a Llywydd y Coleg Etholiadol: “Yn anffodus ni ddim wedi gwneud penodiad eto. Dyw e ddim wedi bod yn bosib i ni gyrraedd un barn, un feddwl – felly mae’r penderfyniad nawr yn mynd i Fainc yr Esgobion.

“Bydd yn flaenoriaeth i ni ymgysylltu ag Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu a dwi’n siŵr y bydd yn bosib i ni ffindio rhywun i arwain yr esgobaeth i’r cam nesaf o’i fywyd.”

Roedd y Coleg Etholiadol yn cynnwys 47 o bobl sy’n cynrychioli pob un o chwech esgobaeth Cymru – cynrychiolwyd yr esgobaeth “gartref” gan chwech o leygwyr a chwech o glerigwyr, a’r pump esgobaeth arall gan dri o leygwyr a thri o glerigwyr yr un, ynghyd â’r pump esgob arall.

Gan bod y Coleg wedi methu ethol, y Fainc Esgobion fydd yn ethol yr esgob newydd maes o law.

Ar ôl i hynny ddigwydd bydd trefniadau yn cael eu gwneud ar gyfer ethol Archesgob Cymru.