Mae ymgyrch wedi ei dechrau i sicrhau bod pob banc yn y Deyrnas Unedig yn derbyn sieciau wedi’u hysgrifennu y Gernyweg.

Mae Lianne Wilson, o St Austell, Cernyw yn wreiddiol ond sy nawr yn byw yng Nghaerdydd, eisiau gweld hyn yn bolisi ysgrifenedig.

Dywedodd ei bod wedi penderfynu dechrau’r ymgyrch ar change.org ar ôl i fanc Lloyd’s yng Nghernyw wrthod siec gan ffrind iddi oedd wedi ei hysgrifennu yn y Llydaweg er eu bod wedi cael eu derbyn o’r blaen.

Dywed Lianne fod rhai banciau, fel Lloyd’s, wedi datgan yn gyhoeddus na fyddant yn derbyn sieciau a ysgrifennwyd yn y Gernyweg ond eu bod yn fodlon eu derbyn yn y Saesneg, Cymraeg a Gaeleg yn unig.

Diogelu

Mae hi’n gyfraith fod banciau yn derbyn sieciau yn y Gymraeg ers ymgyrchu llwyddiannus yn y Chwedegau a’r Saithdegau ond daw ambell achos weithiau i’r wyneb oherwydd anwybodaeth o du rhai banciau a sefydliadau ariannol.

Yn ei deiseb ar change.org dywed Lianne: “Mae’r Gernyweg yn iaith frodorol ym Mhrydain ac mae’n hŷn nag unrhyw un o’r banciau hyn. Mae’n iaith gartref i’r DU ac mae’n iaith frodorol nifer cynyddol o bobl Cernyweg. Fe’i siaredir gan nifer cynyddol o’r werin Cernyweg yng Nghernyw ac mewn mannau eraill yn y DU (yn ogystal â thramor).

“At hynny, mae hawliau’r Gernyweg yn cael eu diogelu’n gyfreithiol o dan y Confensiwn Fframwaith Ewropeaidd ar gyfer Diogelu Lleiafrifoedd Cenedlaethol, gan gynnwys ein hawl i fynegi ein hunaniaeth ddiwylliannol yn y gyfraith a’n gwneud yn gyfreithiol gyfartal â’r Cymry, yr Albanwyr a’r Wyddeleg (y derbynnir eu sieciau).

Ffurfiol

“Felly, mae gennym yr hawl i ysgrifennu ein sieciau yn ein hiaith ac rydym yn mynnu bod banciau sy’n gweithredu yn y DU yn mynd i’r afael â hyn yn eu polisi ffurfiol. Derbyniwch sieciau wedi’u hysgrifennu yng Nghernyw!

Cafodd yr ymgyrch ei dechrau wythnos yn ôl ac mae dros 240 o bobol wedi ei harwyddo hyd yma. Os bydd yn derbyn dros 500 o lofnodion, yna bydd yn cael ei thrafod ymhellach.

Dyma’r linc i’r ddeiseb arlein ar safle change.org https://www.change.org/p/banks-accept-cheques-written-in-cornish-in-all-uk-banks