Mae gwefan Celsa yn dangos eu bod yn falch o'u trefniadau diogelwch
Mae’r gwaith o dynnu dau gorff o waith dur Celsa yng Nghaerdydd yn parhau, wrth i ymchwiliad ddechrau hefyd i achos y ffrwydrad.

Fe ddaeth cadarnhad yn hwyr brynhawn ddoe fod dau ddyn wedi marw yn y digwyddiad yn ardal Sblot o’r brifddinas.

Mae’n ymddangos bod y ffrwydrad wedi digwydd mewn seler yn y gwaith dur sy’n troi metel sgrap yn ddeunyddiau atgyfnerthu.

Cymorth

Dyw enwau’r dynion ddim wedi eu cyhoeddi eto ond mae eu teuluoedd wedi cael gwybod ac yn derbyn cymorth gan swyddogion heddlu.

Mae cwmni Celsa, sy’n cyflogi mwy na 700 o bobol yn ei waith yng Nghaerdydd, yn pwysleisio iechyd a diogelwch ac yn arddangos copi o dystysgrif ar eu gwefan sy’n dangos eu bod yn cyrraedd safonau OHSAS 18001.

Fe ddigwyddodd y ffrwydrad ychydig cyn hanner awr wedi deg ddoe ac roedd gweithwyr mewn swyddfeydd yng nghanol Caerdydd wedi clywed y sŵn.