(Llun yn y pau cyhoeddus)
Mae’r rhan fwya’ o bobol a gollodd eu cyflenwad trydan oherwydd Storm Barney neithiwr bellach wedi cael eu hailgysylltu.

Dros nos roedd hyd at 8,000 o dai a busnesau heb drydan wrth i wyntoedd cryfion effeithio ar sawl rhan o Gymru a chreu difrod.

Ar un cyfnod roedd 6,000 o gwsmeriaid Scottish Power heb drydan yng ngogledd Cymru, ond mae’r cwmni bellach yn dweud mai dim ond ‘degau’ sydd ar ôl.

Ychwanegodd Western Power Distribution bod y rhan fwyaf o’u cwsmeriaid yn y gorllewin gafodd eu heffeithio hefyd wedi cael eu hailgysylltu bellach, ond bod ychydig gannoedd yng nghymoedd y de a Chaerdydd dal heb bŵer.

Disgwyl rhagor

Mae disgwyl mwy o law a gwyntoedd cryfion yn ystod yr wythnos, gyda’r glaw hwnnw’n troi’n eirlaw ar y mynyddoedd dros y penwythnos.

Fe allai hynny achosi rhagor o drafferthion i’r Grid, ac fe ddywedodd y cwmnïau trydan bod rhai achosion newydd o golli pŵer wedi dod i’r amlwg heddiw.

Dywedodd Scottish Power yn gynharach bod eu peirianwyr wedi bod yn gweithio drwy’r nos mewn ‘amodau gwael iawn’, a bod y rhan helaeth o dai bellach wedi cael eu cyflenwad yn ôl.

Yn ôl Western Power roedd tua 170 o dai ym Merthyr Tudful, 39 ym Mhen-y-bont a 58 yn ardal Caerdydd heb bŵer ar hyn o bryd.

Ond fe ychwanegodd y cwmni ei bod hi’n bosib mai nid y storm oedd y gyfrifol am y trafferthion hynny a bod cael dwsinau o dai heb gyflenwad yn ‘batrwm dyddiol arferol’ i gwmni o’u maint nhw.