Christopher May (Llun trwy law Heddlu De Cymru)
Mae mam Tracey Woodford yn dal i gael hunllefau am y ffordd gïaidd y cafodd ei llofruddio gan Christopher May o Bontypridd, meddai brawd a chwaer y wraig 47 oed.

Roedd y teulu cyfan yn dal i feddwl am yr hyn ddigwyddodd iddi a’r ffordd y cafodd ei chorff ei dorri’n ddarnau gan y cyn-gigydd, meddai Sean Woodford a Sharon Maidment.

Fe gafwyd Christopher May, 50 oed, yn euog o lofruddiaeth yn Llys y Goron Caerdydd ar ôl iddi bledio’n ddieuog gan ddweud ei fod wedi lladd Tracey Woodford i’w amddiffyn ei hun.

Fe gytunodd y rheithgor gyda’r erlyniad oedd yn dweud mai blys rhywiol oedd y tu cefn i’r lladd.

‘Person caredig’

Roedd Tracey Woodford yn “berson caredig, llawn gofal na fyddai’n gwneud drwg i neb”, meddai ei brawd a’i chwaer.

Ac, yn ôl y plismon oedd yn arwain yr ymchwiliad i’r llofruddiaeth ym mis Ebrill, roedd y lladd yn weithred “anynnol a barbaraidd” ac roedd ei benderfyniad i bledio’n ddieuog wedi rhoi’r teulu trwy’r felin wedyn.

Roedd heddlu wedi dod o hyd i rannau o gorff Tracey Woodford mewn cawod a chwpwrdd yn ei dŷ ym Mhontypridd a’i phen mewn draen  yn y dref.

Roedd clywed hynny “bron yn rhy boenus i wrando arno”, meddai’r teulu, gan alw Christopher May yn “fwystfil”.