Ambiwlans yng ngwaith dur Celsa y bore yma (LLun: PA)
Mae Heddlu De Cymru wedi dweud eu bod yn dal i chwilio am ddau berson ar ôl ffrwydrad y bore yma yng ngwaith dur Celsa yn nwyrain Caerdydd.

Maen nhw wedi cadarnhau bod y tân yn y gwaith bellach wedi cael ei ddiffodd ac mae pump o bobol wedi cael eu hanafu.

Fe fydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn gwneud datganiad yn y Cynulliad y prynhawn yma yn ateb i gwestiwn brys gan un o’r aelodau lleol Eluned Parrott.

Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro hefyd wedi rhybuddio pobol y gallai fod rhywfaint o oedi gyda gwasanaethau yn Ysbytyr Brifysgol Caerdydd wrth iddyn nhw weithredu protocol yn ymwneud ag argyfyngau.

Maen nhw wedi gofyn i bobol ystyried a oes gwir angen iddyn nhw fynd i’r ysbyty.