Jeremy Corbyn (Garry Knight CCA 2.0)
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, wedi dweud wrth un o’i gefnogwyr penna’ – Ken Livingstone, cyn-faer Llundain – i ymddiheuro ar ôl awgrymu y dylai llefarydd amddiffyn y blaid geisio help ‘seiciatrydd’.

Mae’r llefarydd, Kevan Jones, yn diodde’ o iselder ac, yn ôl llefarydd ar ran Jeremy Corbyn, mae’r arweinydd yn credu’n gry’ na ddylai pobol gydag afiechyd meddwl gael eu “stigmateiddio”.

“Dylai Ken ymddiheuro ar unwaith,” meddai’r llefarydd.

Yr helynt

Fe gododd yr helynt ar ôl i Jeremy Corbyn benodi Ken Livingstone yn gyd-gadeirydd ar grŵp i adolygu polisi amddiffyn y blaid – penderfyniad a gafodd ei feirniadu gan Kevan Jones.

Wrth ymateb i hynny, fe ddefnyddiodd Ken Livingstone y gair “disturbed” i ddisgrifio Kevan Jones gan wrthod ymddiheuro wedyn.

“Mae Jeremy yn credu’n gryf na ddylai pobol â phroblemau iechyd meddwl gael eu stigmateiddio. Mae wedi gweithio â Kevan yn y gorffennol ac wedi edmygu ei ddewrder wrth siarad yn gyhoeddus am ei broblemau iechyd meddwl,” meddai llefarydd ar ran Jeremy Corbyn.

Pryder dros ei benodiad

Mae rhai Aelodau Seneddol Llafur wedi codi pryderon dros y penderfyniad i benodi Ken Livingstone yn gyd-arweinydd ar yr adolygiad a fydd, ymhlith pethau eraill, yn ystyried dyfodol arfau niwclear Trident.

Un o’r beirniaid oedd Kevan Jones a ddywedodd y byddai penodi person sydd mor amlwg yn erbyn Trident yn niweidio “hygrededd” y Blaid Lafur – er bod y cadeirydd arall, Maria Eagle, o blaid cadw’r arfau.

Fe ddaeth ymateb Ken Livingston mewn cyfweliad gyda phapur y Daily Mirror: “Dw i’n meddwl bod angen help seiciatrydd arno. Mae’n amlwg yn teimlo’n isel iawn ac wedi’i styrbio,” meddai.

“Dylai daro draw i weld ei feddyg teulu cyn gwneud y sylwadau sarhaus hyn.”

‘Cryfhau stigma’

Ymatebodd Kevan Jones AS drwy ddweud bod ei sylwadau yn cryfhau’r stigma ynghylch salwch meddwl a galwodd ar Jeremy Corbyn i “ystyried yn ddifrifol” a yw’r cyn-faer yn “addas i gynrychioli’r blaid”.

“Rwy’n gweld y sylwadau hyn yn sarhaus iawn, ddim yn bersonol yn unig ond hefyd i’r miloedd o bobol sy’n dioddef o salwch meddwl,” meddai wrth y papur newydd.

“Dyna pam na all Ken Livingstone ddim cael ei gymryd o ddifrif mewn materion amddiffyn neu unrhyw fater polisi arall.”