Reyaad Khan o Gaerdydd a ymunodd a IS yn Syria
Mae un o arweinwyr y gymuned Fwslimaidd yng Nghymru wedi dweud wrth Golwg360 fod y rhyngrwyd wedi gwneud y gwaith o adnabod eithafwyr cyn iddyn nhw ymuno ag ISIS bron yn amhosib.

Daeth bygythiad y grŵp brawychol i sylw’r cyhoedd unwaith eto’r wythnos hon yn dilyn yr ymosodiadau marwol ym Mharis nos Wener sydd wedi lladd o leiaf 129 o bobl.

Mae hynny wedi arwain at bryderon y gallai ymosodiadau o’r fath ddigwydd ym Mhrydain yn y dyfodol, yn enwedig o gofio bod nifer o Brydeinwyr wedi teithio i Syria i ymladd â’r grŵp brawychol.

Fe gondemniodd Saleem Kidwai, ysgrifennydd cyffredinol Cyngor Mwslemiaid Cymru, yr ymosodiadau diweddaraf gan ddweud ei fod yn “sarhad i ddynoliaeth”.

Ond fe gyfaddefodd nad oedd hi wastad yn bosib i bobl o’r gymuned Fwslimaidd adnabod eithafwyr cyn iddyn nhw ymuno ag ISIS, yn enwedig gan eu bod bellach yn cyfathrebu’n sylweddol ar-lein.

‘Methu gwylio popeth’

Mae rhai Mwslemiaid o Gymru wedi teithio i Syria i ymladd ag ISIS, ac yn ôl adroddiadau diweddar fe gafodd un ohonyn nhw, Reyaad Khan, ei ladd mewn cyrch awyr.

Yn ôl Saleem Kidwai mae’r cyhuddiadau bod y gymuned Fwslimaidd ddim yn gwneud digon i adnabod pobl allai gael eu radicaleiddio yn annheg, fodd bynnag.

“Mae pobl wastad yn dweud ar raglenni teledu neu radio ‘dylech chi fod yn gwybod am y bobl yma [y brawychwyr],” meddai Saleem Kidwai.

“Ond allwch chi ddim. Y dyddiau hyn dyw hyd yn oed rhieni ddim yn gwybod beth mae eu plant nhw’n ei wneud.”

Tad ‘ddim yn gwybod’

Dywedodd ei fod hyd yn oed wedi siarad â thad un dyn ifanc oedd wedi ymuno ag ISIS oedd ddim wedi gwybod unrhyw beth am ei dueddiadau eithafol nes iddo fynd.

“Roedd e’n dweud nad oedd ganddo syniad,” meddai Saleem Kidwai.

“Maen nhw [y bobl ifanc] yn gallu cael y rhyngrwyd ar eu ffonau, ac os ydyn nhw yn eu hystafelloedd allwch chi ddim bod yn edrych dros eu hysgwydd o hyd yn gwylio beth maen nhw’n ei wneud.

“Fe allwch chi weld i ba fwyty mae’n mynd, i ba fosg mae’n mynd, i ba glwb mae’n mynd, ond allwch chi ddim cadw llygad ar bopeth mae’n ei wneud ar y we.”

Targedu pawb

Yn ôl Saleem Kidwai fe allai ymosodiad o’r fath ddigwydd yn agosach at gartref na Pharis yn y dyfodol, ac ni fyddai brawychwyr  yn gwahaniaethu rhwng y bobl roedden nhw’n ei dargedu.

“Does gan y pethau yma ddim ffiniau. Fe allai e ddigwydd fory yn fan hyn, yn America, fe allai fod yn unrhyw le,” meddai.

“Roedd beth ddigwyddodd ym Mharis yn sarhad i ddynoliaeth, does dim amheuaeth mai dim ond person hollol greulon a didostur allai feddwl am lofruddio pobl ddiniwed yn y fath fodd.

“Pan mae’r math yma o beth yn digwydd dyw e ddim ots os ydych chi’n Gristion neu’n Fwslim, du, gwyn, pa bynnag liw, mae’r rhain yn frawychwyr ac fe wnawn nhw ladd unrhyw un – yn Beirut a Baghdad maen nhw wedi lladd Mwslemiaid, mae 100,000 o Fwslemiaid wedi cael eu lladd gan ISIS.”

Bwydo atgasedd

Mynegodd bryder hefyd y gallai pobl ym Mhrydain ymateb yn negyddol i Fwslemiaid yn sgil yr ymosodiadau diweddaraf.

“Dyma’r trasiedi fwyaf sydd yn deillio o ddigwyddiadau fel hyn, bod pobl sydd yn wleidyddol ragfarnllyd o’ch ‘ochr chi’ neu’n ‘hochr ni’ yn defnyddio’r peth i fwydo atgasedd rhwng cymunedau, yn hytrach na uno i frwydro yn erbyn y rhai sy’n gyfrifol fel ISIS neu grwpiau eithafol eraill,” meddai Saleem Kidwai.

“Mae pobl yn ceisio dod a chrefydd a mewnfudo i mewn i bethau er mwyn ceisio sgorio pwyntiau gwleidyddol. Mae’n rhaid i ni ddelio â phethau ar ddwy ffrynt, ac mae’n rhaid i ni gydweithio yn hytrach nag ymateb yn rhy fyrbwyll.

“Mae’n rhaid meddwl sut i ddelio â’r peth, a dyw e ddim yn hawdd, mae’n rhaid i bawb eistedd i lawr â’i gilydd. Nid jyst fy mhroblem i yw e, mae’n broblem i’r gymuned a’r gymdeithas gyfan.”

Stori: Iolo Cheung