Mae llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu cau holl bwerdai glo Prydain erbyn 2025 er mwyn ceisio bod y wlad fawr gyntaf i roi stop ar ddefnyddio tanwydd ffosil.
Cafodd y cyhoeddiad, sydd yn dod llai na phythefnos cyn trafodaethau’r Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd ym Mharis, ei groesawu gan gyn-is-arlywydd yr UDA Al Gore sydd yn ymgyrchydd amgylcheddol amlwg.
Ond mae’r penderfyniad wedi cael ei feirniadu gan rai ymgyrchwyr, gan fod y llywodraeth eisiau mwy o bwerdai nwy a niwclear yn eu lle.
Yn ôl Plaid Cymru a’r Blaid Werdd ni fydd y polisi newydd yn gwneud unrhyw beth i wneud Prydain yn fwy glan gan na fydd cynlluniau’r llywodraeth yn hybu ynni adnewyddadwy glanach.
‘Gwerth am arian’
O dan gynlluniau’r llywodraeth fe fydd yn rhaid i unrhyw bwerdai glo sydd heb dechnoleg dal carbon gael eu cau erbyn 2025, a bydd cyfyngiadau ar eu gwaith erbyn 2023.
Yn ôl y llywodraeth mae’n “hanfodol” fod pwerdai nwy a niwclear newydd yn cael eu hadeiladu yn y ddegawd nesaf er mwyn lleihau allyriadau a diogelu cyflenwad ynni’r wlad.
Daw’r penderfyniad i gau pwerdai glo ar ôl i gymorthdaliadau ynni adnewyddadwy hefyd gael eu cwtogi, gyda’r Ceidwadwyr yn mynnu bod angen gwneud hynny er mwyn lleihau biliau ynni cwsmeriaid.
“Rydyn ni’n taclo blynyddoedd o danfuddsoddi a hen bwerdai sydd angen cael eu disodli gan ddewisiadau amgen sydd yn ddibynadwy, cynnig gwerth am arian a lleihau allyriadau,” meddai’r Ysgrifennydd Ynni Amber Rudd.
‘O fodca i seidr’
Mae Aelod Seneddol y Blaid Werdd Caroline Lucas wedi mynnu fodd bynnag bod angen i’r llywodraeth beidio â chefnogi ynni nwy a niwclear i’r graddau y maen nhw, a throi at gynlluniau adnewyddadwy yn lle hynny.
“Mae troi o lo i nwy fel ceisio rhoi’r gorau i alcohol wrth newid o fodca i seidr cryf – mae’n methu’n llwyr â delio â’r her go iawn o’n blaenau,” meddai.
Mae llefarydd ynni Plaid Cymru Llŷr Gruffydd hefyd wedi beirniadu’r strategaeth, gan fynnu mai cyflenwad wrth gefn i ffynonellau adnewyddadwy glanach a rhatach ddylai nwy fod.
“Wrth gwrs, mae Plaid Cymru yn croesawu’r newyddion y bydd pwerdai glo yn cau erbyn 2025. Mae glo yn fudr ac yn ddrud ac nid oes lle iddo yn ein cymysgedd ynni,” meddai Llŷr Gruffydd.
“Ond y mae dewis arall Llywodraeth y DG y tu ôl ymlaen; maent eisiau i nwy fod flaenaf mewn cyflenwad ynni gyda rôl fechan i ynni adnewyddadwy.
“Y ffordd arall y dylai fod. Dylai ffynonellau adnewyddadwy fod yn galon gref ein cyflenwad ynni gyda chynhyrchu nwy wrth gefn yn unig.”
Pryder am swyddi
Cafwyd croeso i gynlluniau’r llywodraeth gan WWF Cymru, ond fe rybuddiodd y mudiad y byddai cyfrifoldeb nawr ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod swyddi gwyrddion ar gael wrth i ddyfodol glo ddod i ben.
“Mae WWF-UK wedi bod yn galw ar Brif Weinidog y Deyrnas Unedig i anrhydeddu’r ymrwymiad a wnaeth yn ystod yr etholiad cyffredinol i ddiddymu glo yn raddol. Rydym yn falch ei fod wedi gwneud hynny,” meddai Jessica McQuade, Swyddog Polisi ac Eiriolaeth WWF Cymru.
“Trwy ddiddymu glo yn raddol erbyn 2050 a chyfyngu oriau erbyn 2023, mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod effeithiau amgylcheddol difrifol glo brwnt – a’r potensial sydd ganddo i ddifetha ymrwymiadau hinsawdd y DU.
“Bydd cau Aberddawan yn effeithio’n fawr ar leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru ac yn helpu Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei thargedau.
“Serch hynny rydym yn cydnabod yr effaith ar swyddi ac economi Cymru, felly galwn ar Lywodraeth Cymru i gyflymu ei chynllunio ar gyfer economi isel ei charbon er mwyn darparu swyddi gwyrddion ar gyfer y dyfodol.”