Mae disgyblion sy’n bwyta brecwast iach ddwywaith yn fwy tebygol o wneud yn dda yn yr ysgol o’i gymharu a’r rhai sydd ddim, yn ôl yr astudiaeth fwyaf o’i math.

Fe wnaeth ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd weld ‘cysylltiad sylweddol’ rhwng bwyta brecwast a pherfformio’n well ar brofion asesu athrawon.

Roedd yr ymchwil yn pwysleisio’r cysylltiad cryf rhwng bwyta brecwast iachus, fel grawnfwyd, bara, cynnyrch llaeth neu ffrwythau a gwneud yn dda yn yr ysgol.

Doedd dim cysylltiad o’r fath rhwng bwyta bwydydd sydd ddim yn iach fel creision neu losin, er bod un o bob pum disgybl yn dweud eu bod yn gwneud hynny.

Roedd yr astudiaeth yn cynnwys tua 5,000 o ddisgyblion o dros 100 o ysgolion cynradd, a oedd yn cynnwys gofyn i ddisgyblion rhwng naw ac 11 oed beth oedden nhw wedi’i fwyta am frecwast ac yn ystod weddill y diwrnod.

 

Perfformio’n well ar asesiadau

Roedd yr ymchwilwyr wedyn yn dilyn eu cynnydd yn yr ysgol rhwng chwech ac 18 mis yn ddiweddarach.

Roedd disgyblion oedd yn bwyta brecwast da yn perfformio’n well ar asesiadau Cyfnod Allweddol 2, ac roedd y cysylltiad hwn yn cryfhau i ddisgyblion oedd yn parhau i fwyta llysiau a ffrwythau yn ystod y dydd.

“Mae cysylltiad cryf rhwng bwyta brecwast a gwneud yn dda, ond mae cysylltiad hefyd rhwng brecwast iach a gwneud yn dda,” meddai Dr Graham Moore, a weithiodd ar yr astudiaeth.

“Roedd y tebygolrwydd o gael sgôr gwell na’r cyfartaledd mewn profion asesu hyd at ddwywaith yn fwy tebygol i’r disgyblion hynny oedd yn bwyta brecwast.”

Ac yn ôl Dr Graham Moore, does dim ots ble fydd y disgyblion yn bwyta eu brecwast – adref neu mewn clwb brecwast yn yr ysgol.

“Y prif beth yw sicrhau eu bod yn bwyta brecwast,” meddai.

Yn ystod yr astudiaeth, roedd gofyn i’r disgyblion restru’r holl fwyd a diod roedden nhw wedi’i fwyta ac yfed dros gyfnod o 24 awr, gan gynnwys dau frecwast.

A dywedodd Hannah Littlecott, prif awdur yr astudiaeth: “Tra bod bwyta brecwast wedi cael ei gysylltu  ag iechyd a chanolbwyntio… mae tystiolaeth sy’n cysylltu brecwast â chanlyniadau addysgol wedi bod yn aneglur hyd yn hyn.

“Mae’r astudiaeth hon felly yn cynnig y dystiolaeth gryfaf eto o gysylltiadau rhwng beth mae disgyblion yn ei fwyta a sut maen nhw’n neud yn yr ysgol, sydd â goblygiadau sylweddol i bolisïau addysg ac iechyd cyhoeddus.”