Y Trysorlys
Mae Swyddfa Cymru a’r Adran Waith a Phensiynau ymhlith saith o adrannau eraill Llywodraeth y DU sydd wedi dod i gytundeb gyda’r Trysorlys ynglŷn â thoriadau.

Mae disgwyl i’r Canghellor George Osborne gyhoeddi bod yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd, Adran Cyllid a Thollau EM, Swyddfa’r Cabinet, Swyddfa’r Alban, Swyddfa Gogledd Iwerddon a Swyddfa’r Adfocad Cyffredinol hefyd wedi dod i gytundeb.

Fe fydd yr adrannau yn wynebu toriadau o 21% yn eu gwariant – tua 6% y flwyddyn – gan arwain at arbedion o £2.5 biliwn erbyn 2019-20.

Mae’r cytundeb gyda’r Adran Waith a Phensiynau yn dod a’r anghydfod rhwng yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Iain Duncan Smith a’r Canghellor i ben ynglŷn â thoriadau i’r gyllideb les.

Mae’n golygu bod 11 o adrannau’r Llywodraeth bellach wedi dod i gytundeb gyda’r Trysorlys.

Ond mae nifer o adrannau eraill mawr eto i ddod i gytundeb, gan gynnwys y Swyddfa Gartref lle mae Theresa May o dan bwysau cynyddol i wneud toriadau i heddluoedd y DU.

Mae disgwyl i George Osborne gyhoeddi ei adolygiad gwariant yn Natganiad yr Hydref wythnos nesaf.