Mae gweithwyr cynghorau Cymru’n grac fod eu cyflogwyr wedi cynnig codiad cyflog o ddim ond 0.25% i 1.75%, yn ôl undeb Unsain, sy’n dweud bod y cynnig yn dal yn is na lefel chwyddiant.

Roedd y gweithwyr wedi bod yn aros ers Ebrill 1 am y cynnig, sydd yn ostyngiad yn nhermau real, yn ôl yr undeb.

Mae’n effeithio ar staff cynorthwyol mewn ysgolion, gweithwyr gofal, gweithwyr casglu sbwriel, glanhawyr, llyfrgellwyr, gweithwyr ar y ffyrdd a llawer iawn mwy.

Yn ôl yr undeb, mae blynyddoedd o rewi cyflogau a chap ar gyflogau o gyfeiriad San Steffan wedi gadael staff llywodraeth leol 20% yn dlotach nag yr oedden nhw yn 2010.

Maen nhw’n dweud bod cynghorau wedi dweud wrthyn nhw nad oes ganddyn nhw ddigon o arian i gynnig y codiad cyflog mae’r gweithwyr yn ei haeddu nac i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

Mae’r undeb yn galw ar y Gymdeithas Lywodraeth Leol i ymuno ag undebau llafur i ymgyrchu tros arian ychwanegol gan Lywodraeth San Steffan i ariannu’r codiad cyflog.

Ymateb

“Mae cynnig cyflog sy’n is na lefel chwyddiant yn dda i ddim i weithwyr sydd 20% yn dlotach nag yr oedden nhw ddegawd yn ôl o ganlyniad uniongyrchol i doriadau gwariant difrifol Llywodraeth y Deyrnas Unedig,” meddai Lianne Dallimore, cadeirydd pwyllgor llywodraeth leol Unsain Cymru.

“Mae staff llywodraeth leol wei cadw gwasanaethau hanfodol megis gofal cymdeithasol oedolion, canolfannau ysgol a chasglu sbwriel i fynd drwy gydol y pandemig.

“Rydym yn haeddu mwy.

“Dywedodd cyflogwyr cynghorau Cymru wrthym eu bod nhw eisiau cydnabod ein cyfraniad ond nad oes ganddyn nhw mo’r arian, wel, gweithiwch gyda ni i schrau arian ychwanegol gan San Steffan y gellir ei fuddsoddi mewn staff a gwasanaethau rheng flaen.”