Mae dwy ddynes wedi cael eu hachub ar ôl cael eu taro gan fellt ar yr Wyddfa.

Roedden nhw ymhlith criw o bump o bobol ger y copa pan gawson nhw eu taro.

Fe wnaeth Tîm Achub Mynydd Llanberis alw am gymorth yr heddlu i’w hachub nhw, gydag un o’r ddwy yn dechrau mynd yn anymwybodol a’r llall wedi cael mân anafiadau.

Cawson nhw eu cludo mewn hofrennydd wedyn i Ysbyty Gwynedd Bangor, a does dim lle i gredu bod eu bywydau mewn perygl.

Yn ôl y tîm achub mynydd, fe fu’r ddwy “yn lwcus iawn” ac maen nhw’n cynghori pobol i osgoi mynd i ben mynyddoedd yn ystod stormydd ac i wirio’r rhagolygon cyn mynd.