Kashif Iqbal (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae siopwr wedi’i ddedfrydu i garchar am werthu cyffuriau sy’n cael eu disgrifio fel ‘legal highs’.

Fe fu Kashif Iqbal, perchennog siop Rebel Rebel gerbron Llys y Goron Abertawe, ac fe blediodd yn euog i werthu nwyddau oedd wedi’u gwahardd dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau.

Mae wedi’i garcharu am dair blynedd a hanner.

Roedd swyddogion Safonau Masnach wedi ymweld â’i siop ar sawl achlysur, wedi mynd â rhai nwyddau oddi yno, ac wedi’i rybuddio i roi’r gorau i’w gwerthu.

Ond fe gariodd Kashif Iqbal ymlaen i’w gwerthu, gan arwain at gwynion ynglyn ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol o flaen ei siop, yn ôl Heddlu De Cymru.