Francois Hollande
Mae arlywydd Ffrainc, Francois Hollande, wedi cymharu’r ymosodiadau terfysgol ym Mharis, sydd wedi lladd 127 o bobol, fel “gweithred ryfelgar”, ac mae wedi beio ISIS (y Wladwriaeth Islamaidd) am y lladd a’r difrod.

Roedd yn siarad wedi cyfarfod brys o swyddogion diogelwch a gwleidyddion ym Mhalas Elysee fore heddiw. Mae wedi cyhoeddi tridiau o alaru swyddogol, ac mae wedi addo y bydd Ffrainc yn “ddigyfaddawd” wrth ymateb i derfysgaeth.

Wrth i’r cyfarfod hwnnw gymryd lle, roedd y Wladwriaeth Islamaidd wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau, gan wneud eu datganiad ar y we.

Mae’r heddlu’n chwilio am gynorthwywyr y dynion arfog a dargedodd neuadd gyngerdd y Batlacan, ynghyd â stadiwm y Stade de France, neithiwr. Fe wnaethon nhw hefyd ymosod ar farau a bwytai yn y brifddinas.

Mae’r awdurdodau yn credu bod, o blith yr wyth oedd yn gyfrifol am yr ymosodiadau, saith wedi’u lladd. Ond mae’r awdurdodau’n rhybuddio y gallai cynorthwywyr fod ar herw.