Mae yna gysylltiad rhwng yr ymosodiadau terfysgol ym Mharis neithiwr, ac arestiad dyn 51 oed yn yr Almaen yr wythnos ddiwetha, yn ôl rhai adroddiadau o Ewrop.

Mae’r darlledwr cyhoeddus, Bayrischer Rundfunk, yn dweud fod yr awdurdodau yn yr Almaen wedi cysylltu â swyddogion yn Ffrainc ynglyn ag arestiad y dyn ar y ffin rhwng yr Almaen ac Awstria ar Dachwedd 5.

Fe gafodd y dyn ei gymryd i’r ddalfa oherwydd bod arfau awedi’u canfod yn ei gar.

Mae llefarydd ar ran heddlu talaith Bafaria wedi cadarnhau iddyn nhw ddod o hyd i arfau, ffrwydron a grenadau.