Kirsty Williams
Fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn ‘brwydro’n ôl’ yn etholiadau’r Cynulliad yn 2016. Dyna neges arweinydd y blaid wrth annerch cynhadledd yn Abertawe heddiw.

Yn ei haraith yng nghynhadledd ei phlaid, fe fydd Kirsty Williams AC yn pwysleisio hefyd mai’r Democratiaid Rhyddfrydol yw’r blaid sy’n “rhoi pobl yn gyntaf”.

“Yn yr etholiad hwn, rwyf am i bawb wybod mai ein plaid ni sy’n rhoi pobl yn gyntaf,” fydd neges Kirsty Williams.

“Rydym wedi cael blynyddoedd o’r un llywodraeth Lafur yn gwrando ar fuddiannau breintiedig, ond yn anwybyddu’r bobol maen nhw i fod eu cynrychioli.”

“Hen bryd am newid”

Yn ôl yr arweinydd, mae’n amser am newid ac yn hen bryd i Gymru gael “llywodraeth sy’n gweithio dros ei phobl”.

Bydd disgwyl iddi hefyd gyfeirio at ‘lwyddiannau’r’ Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad, gan gyfeirio at ‘dro pedol’ Llafur ynghylch ail-ddechrau cyhoeddi penderfyniadau gweinidogion y llywodraeth, rhywbeth y mae’r Dems Rhydd wedi honni fel buddugoliaeth iddyn nhw.

Ac yn ôl Kirsty Williams, nhw yw’r unig blaid i fod yn ddigon ‘ddewr’ i bleidleisio yn erbyn y cynnig i roi codiad cyflog o £10,000 i Aelodau Cynulliad.

“Efallai ein bod ni’n grŵp bach yn y Cynulliad, ond rydym wedi defnyddio ein dylanwad i wneud gwahaniaeth mawr.”

Ac mae disgwyl i Kirsty Williams ddweud bod hynny’n cynnwys “buddsoddi miliynau o bunnoedd yn ein hysgolion, miloedd o brentisiaethau newydd, gwella mynediad i driniaethau achub bywyd a lleihau cyfraddau i bobl ifanc fel eu bod yn gallu cael gwaith a hyfforddiant.”

“Brwydro yn ôl” yn 2016

Wedi dyddiau’r glymblaid rhwng y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn Downing Street, oedd yn drychinebus i’r rhyddfrydwyr, dyw pethau ddim yn ddu i gyd yn eu tyb nhw,

“Mae ein haelodaeth wedi tyfu 35% ers yr Etholiad Cyffredinol,” bydd Kirsty Williams yn ei ddweud.

“Ers mis Mai rydym wedi cymryd sedd cyngor oddi ar Llafur yn Wrecsam a sedd o’r Torïaid ym Mhowys.”

A bydd Kirsty Williams yn dweud bod hyn yn golygu dau beth; bod y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn ennill eto a bod momentwm ar eu hochr nhw.

Ac er bod “ymgyrchu adeg y glymblaid wedi bod yn anodd… “mae pobl yn fodlon gwrando eto,” meddai.

“Roedd y poliau cyn etholiad diwethaf y Cynulliad yn dweud y byddwn yn cael ein chwalu, ond roedden nhw’n anghywir.

“A byddan nhw’n anghywir eto…. hwn yw’r etholiad y byddwn yn brwydro yn ôl.”