Tracey Woodford
Roedd dyn wedi cuddio pen dynes yr oedd wedi’i llofruddio mewn draen, clywodd Llys y Goron Caerdydd heddiw.

Ddoe, clywodd y llys bod Tracey Woodford, 47, wedi cael ei thagu gan Christopher Nigel May, 50, ychydig oriau ar ôl iddi gwrdd ag ef yn nhafarn y Skinny Dog ym Mhontypridd ym mis Ebrill.

Daeth dau blismon o hyd i’w chorff, a oedd wedi’i dorri’n ddarnau, yn fflat May ym Mhontypridd ar 24 Ebrill – ond ni chafwyd hyd i’w phen tan yn ddiweddarach.

Dywedodd Roger Thomas QC ar ran yr erlyniad bod ei phen wedi cael ei ddarganfod 138 metr tu mewn i dwnnel tywyll yn Heol Sardis.

Ychwanegodd Roger Thomas y gallai May fod wedi claddu’r pen ond ei fod wedi penderfynu ei adael ar lethr yn y draen.

“Pam y byddai dyn yn ymddwyn yn y ffordd yma gyda phen dynes? Mae’n beth rhyfedd iawn iddo fod wedi’i wneud – rhoi pen yn y lleoliad yma,” meddai.

Clywodd y llys bod May wedi gweithio fel cigydd a’i fod wedi bod yn “dda iawn” wrth drin cyllyll, yn ôl un  o’i gyn-gydweithwyr.

Mae’r erlyniad yn honni bod ’na “gymhelliad rhywiol” i lofruddiaeth Tracey Woodford. Mae profion DNA yn dangos bod May wedi cael rhyw gyda hi, unai cyn neu ar ôl iddi farw.

Mae May, o Bontypridd, yn gwadu ei llofruddio ac mae’r achos yn parhau.