Karl Andree
Mae dyn 74 oed o Brydain, a gafodd rybudd y gallai gael ei ddedfrydu i chwipio am dorri rheolau alcohol llym yn Saudi Arabia, wedi cael dychwelyd adref.

Cafodd Karl Andree rybudd ei fod yn wynebu cael ei chwipio 350 o weithiau ar ôl bod â gwin cartref yn ei feddiant yn Jeddah.

Daeth e adref ar awyren nos Fawrth ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar, lle bu dan glo ers mis Awst y llynedd.

Cafodd ymgyrch ei lansio gan ei deulu mewn ymgais i orfodi’r awdurdodau i’w ryddhau gan fod ei wraig yn derbyn triniaeth am glefyd Alzheimer.

Llofnododd mwy na 230,000 ddeiseb yn galw ar Brif Weinidog Prydain, David Cameron i ymyrryd, ac fe wnaeth ei wyrion apelio’n uniongyrchol am gael ei ryddhau.

Bu Karl Andree yn byw yn y Dwyrain Canol ers 25 o flynyddoedd ac yn gweithio yn y diwydiant olew.

Dywedodd Ysgrifennydd Tramor San Steffan, Philip Hammond: “Cafodd Karl Andree ei ryddhau o’r carchar oriau ar ôl fy ymweliad â Riyadh ar 28 Hydref.

“Rwy’n falch ei fod wedi dychwelyd adref yn ôl at ei deulu, gan ddod â chyfnod anodd iddo fe a’i deulu i ben.

“Rwy’n ddiolchgar i lywodraeth Saudi Arabia am eu hymdrechion i sicrhau’r canlyniad positif hwn, yn dilyn ein trafodaethau yn ystod fy ymweliad.”

Dywedodd Karl Andree ei fod yn teimlo’n “emosiynol” wrth ddychwelyd at ei deulu a’i fod yn edrych ymlaen at “ail-adeiladu” ei fywyd.

Dywedodd wrth bapur newydd y Sun fod ymgyrchwyr wedi achub ei fywyd.