Mae Carolyn Harris wedi ymddiswyddo o’r Cabinet Cysgodol yn San Steffan yn sgil cyhuddiadau ei bod hi wedi bod yn lledaenu honiadau di-sail am fywyd preifat Angela Rayner.
Roedd hi’n Ysgrifennydd Seneddol Preifat i’r arweinydd Syr Keir Starmer ers iddo ddod yn arweinydd y Blaid Lafur, ac mae hi’n Aelod Seneddol dros Ddwyrain Abertawe, ac yn ddirprwy arweinydd Llafur Cymru.
Daw ei hymddiswyddiad wedi i Keir Starmer ad-drefnu ei gabinet cysgodol, ac wedi i Angela Rayner golli ei swydd yn gadeirydd ar y blaid.
Yn ôl The Times, bu Carolyn Harris yn lledaenu’r honiadau dros y penwythnos tra bod trafodaethau ynghylch rôl Angela Rayner yn y cabinet yn cael eu cynnal.
Mae Angela Rayner yn ddirprwy arweinydd y Blaid Lafur hefyd, a daeth Keir Starmer dan y lach am ei diswyddo fel Cadeirydd a Chydlynydd Ymgyrchu’r blaid.
Carolyn Harris oedd ffynhonnell wybodaeth Keir Starmer ynghylch materion yn ymwneud â grŵp Seneddol y Blaid Lafur ond yn ôl y sôn, mae’r berthynas rhyngddi a rhai Aelodau Seneddol wedi chwerwi yn ystod y misoedd diwethaf.
Camu’n ôl “yw’r peth iawn”
Wrth gadarnhau ei hymddiswyddiad, dywedodd Carolyn Harris mai “adeg balchaf fy ngyrfa oedd cael cyd-gadeirio’r ymgyrch a welodd Keir Starmer yn cael ei ethol yn arweinydd y Blaid Lafur, a’i wasanaethu fel Ysgrifennydd Seneddol Preifat dros y flwyddyn ddiwethaf”.
“Camu’n ôl o’r rôl yw’r peth iawn ar hyn o bryd, wedi cyfnodau personol heriol a llwyth gwaith cynyddol yn ddirprwy arweinydd Llafur Cymru,” meddai wedyn.
“Dw i wedi mwynhau pob munud, a dw i’n edrych ymlaen at gefnogi Keir yn y ffordd orau fedra’ i dros y misoedd nesaf.
“Honiadau anllad”
“Roedd hi’n gwneud honiadau anllad am Angela dros y penwythnos, a chafodd ei dal,” meddai gweinidog cysgodol dienw wrth The Times.
“Mae hi’n wrecking ball llwyr, ac mae hi wedi gwneud lot o niwed yn [grŵp Seneddol y Blaid Lafur].”
Er bod Angela Rayner wedi cael ei diswyddo fel Cadeirydd a Chydlynydd Ymgyrchu’r blaid, mae hi bellach wedi derbyn rôl arall yn y cabinet cysgodol, yn dilyn trafodaethau a gwrthwynebiad gan Aelodau Seneddol.
“Mae Angela yn dod allan o hyn gyda mwy o lawer o bŵer yn nhermau’r blaid a pholisïau,” meddai cynghreiriad iddi.
“Bydd hi’n fwy gweladwy nawr gan nad ydi hi’n cael ei dal yn ôl.”