Mae grŵp cynghori Llywodraeth Cymru’n ystyried cael gwared ar reolau sy’n dweud bod rhaid i ddisgyblion wisgo masgiau mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru, yn ôl un meddyg.

Ar hyn o bryd, mae’n rhaid gwisgo masgiau ymhob man yn yr ysgol, gan gynnwys yr ystafell ddosbarth.

Dywedodd Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth raglen frecwast BBC Radio Wales fod grŵp cynghori technegol Cymru’n ystyried hepgor y rheolau.

“Mater dan ystyriaeth”

“Mae’r mater yma dan ystyriaeth yng Nghymru, ac mae cydweithwyr yn casglu’r holl dystiolaeth, gan gynnwys sylwadau Iechyd Cyhoeddus Cymru,” meddai Dr Giri Shankar.

“Felly, byddwn ni’n gallu asesu a ddylwn ni symud tuag at beidio â defnyddio masgiau mewn ysgolion yn syth, neu a ydyn ni angen mwy o dystiolaeth.”

Dywedodd Dr Shankar, sy’n gyfarwyddwr digwyddiadau ar gyfer ymateb i achosion Covid gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru, y byddan nhw’n ymdrin â’r mater yn ofalus, yn enwedig gan ei fod yn cynnwys grŵp o bobol sydd heb gael eu brechu.

“Nid yw’r boblogaeth oed ysgol wedi cael eu brechu eto, ac maen nhw mewn peryg o ddal a lledaenu coronafeirws, ac mae’n rhaid i ni ystyried pob mesur posib allai aros yn eu lle er mwyn amddiffyn grwpiau o bobol o’r fath,” meddai.

“Oherwydd yr agwedd ofalus yma yr ydyn ni wedi’i chymryd, rydyn ni wedi llwyddo i gyrraedd a chynnal y lefelau isel hyn… ac mae’n rhaid i ni amddiffyn ein hunain rhag dyfodiad amrywiolion newydd.”

Angen “gwyddoniaeth gref” i berswadio pobol

Dywedodd yr Athro Eithne Hughes, cyfarwyddwr undeb Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru, ei bod hi’n anodd i ddysgwyr ifanc gyfathrebu wrth wisgo masgiau.

“Mae’r holl fusnes o gyfathrebu yn ymwneud â gweld eu cegau a’r mynegiant ar eu hwynebau, yn ogystal â chlywed,” meddai’r Athro Eithne Hughes wrth raglen frecwast Radio Wales.

“Mae’r proffesiwn wedi amsugno hyn, ac wedi’i ddefnyddio fel ffordd i gadw pawb yn ddiogel.

“Dw i’n meddwl y bydd hi’n anodd oni bai fod gwyddoniaeth gref yn cefnogi cael gwared ar fasgiau fel ffordd o leihau’r risg o fewn ysgolion. Dw i’n meddwl mai dyna’r unig beth fydd yn perswadio pobol ei fod yn ddiogel.”