Mae cymunedau ar draws Sir Benfro yn dal i aros i’w cyflenwad dŵr gael ei adfer i’w cartrefi ar ôl bod heb ddŵr am bron i 24 awr.

Yn ôl Dŵr Cymru, mae’r bibell wnaeth hollti ger Llechryd, Aberteifi wedi’i thrwsio ond maen nhw’n dal i geisio adfer y cyflenwad dŵr i dai pobl.

Dywedodd y cwmni fod y canolfan trin dŵr bellach yn gweithio ar ôl ceisio trwsio’r bibell yn ystod y nos.

Y cymunedau sydd wedi cael eu heffeithio yw Crymych, Boncath, Llandudoch, Tegryn a Nanhyfer yn Sir Benfro.

Mae disgwyl i ddŵr gyrraedd y cymunedau hyn yn ddiweddarach y bore ‘ma.

Fe holltodd y bibell ddŵr bore ddoe, ac ers hynny mae 2,500 o dai yn rhannau o Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin wedi bod heb ddŵr.

Dwy ysgol ynghau

Bydd Ysgol Gynradd y Frenni yng Nghrymych yn parhau i fod ynghau am yr ail ddiwrnod heddiw oherwydd y trafferthion dŵr yn yr ardal.

Dywedodd Cyngor Sir Benfro bod yr ysgol ar gau oherwydd nad oes dŵr ar gael ar gyfer y toiledau neu i olchi dwylo, er bod gan yr ysgol gyflenwad o ddŵr potel.

Mae Ysgol Clydau yn Nhegryn, Sir Benfro hefyd wedi cau y bore oherwydd y diffyg cyflenwad dŵr.

Dosbarthu poteli dŵr

Mae Dŵr Cymru wedi bod yn dosbarthu poteli dŵr i bobl sydd heb ddŵr a byddan nhw’n parhau i wneud hynny tan fydd y cyflenwad yn ôl i’w arfer.

Gall cwsmeriaid sydd wedi’u heffeithio gael poteli dŵr o glwb rygbi Crymych, Tafarn y Salutation yn Felindre, a’r maes parcio gyferbyn â Thafarn Penbryn.

Gall pobl sydd â phryderon am eu cyflenwad dŵr ffonio Dŵr Cymru ar 0800 052 0130.