Y sganiwr MRI agored newydd
Mae sganiwr MRI agored newydd wedi cyrraedd Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan heddiw.

Mae’n golygu y bydd cleifion yn gallu dewis sefyll neu orwedd i lawr yn ystod sgan MRI.

Dyma fydd yr ysbyty Gwasanaeth Iechyd cyntaf yng Nghymru i ddefnyddio sganiwr MRI agored.

Yn ôl arbenigwyr, bydd hyn yn helpu cleifion sy’n dioddef o glawstroffobia sydd methu wynebu cael eu rhoi mewn sganiwr MRI traddodiadol a bydd yn gallu gweld rhai cyflyrau na fyddai wedi bod yn bosibl eu gweld wrth i’r claf orwedd.

“Bellach, mae gennym ni opsiwn mwy radical i sganio cleifion na fyddai efallai’n gallu goddef y profiad o gael sgan MRI arferol dros eu corff cyfan, neu sy’n cael symptomau dim ond wrth iddyn nhw gynnal pwysau, er enghraifft wrth eistedd,” meddai Pat Youds, Pennaeth Staff Cysylltiol ar gyfer Radiograffeg yng Ngogledd Cymru.

“Lleihau amseroedd aros”

Daw’r ‘G-Scan’ o fuddsoddiad gwerth £740,000 gan Lywodraeth Cymru sy’n rhan o’i Chronfa Technoleg Iechyd ac yn ôl y llywodraeth, bydd y peiriant newydd a hwn yn cynyddu capasiti’r ysbyty ac yn lleihau amseroedd aros i gleifion yn y gogledd.

Yn ôl y llywodraeth, bydd y sganiwr MRI hefyd yn lleihau costau trydan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hyd at £50,000 y flwyddyn.

“Rydyn ni’n buddsoddi yn y dechnoleg ddiweddaraf sydd ar gael i sicrhau bod gan gleifion fynediad at y triniaethau mwyaf diweddar,” meddai Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd.

“Gwnaeth y bwrdd iechyd gais am arian gan Lywodraeth Cymru er mwyn bod yr ysbyty cyntaf yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru i gael y sganiwr hwn. Bydd yn cynyddu’r gallu i wneud diagnosis yn yr ysbyty ac yn helpu i leihau amseroedd aros.”