Roedd ardal yng Ngheredigion wedi torri record y Deyrnas Unedig ddoe am y tymheredd uchaf ar ddiwrnod o Dachwedd.

Fe gofnododd y Swyddfa Dywydd tymheredd o 22.3 gradd Celsius yn Nhrawsgoed, ger Aberystwyth ddydd Sul, Tachwedd 1.

Fe dorrodd hyn y record a gâi ei dal cyn hynny gan Brestatyn, am dymheredd o 21.7 gradd Celsius ar 4 Tachwedd 1946.

Er hyn, mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhyddhau rhybudd melyn dros rannau o’r Deyrnas Unedig heddiw, ac mae’n effeithio ar ardaloedd dwyreiniol Cymru.

Maen nhw’n rhybuddio y gallai’r niwl effeithio ar deithio, ond mae disgwyl iddo glirio erbyn y prynhawn.